Dewi Llwyd yn cyhoeddi ei fod yn ymddeol o ddarlledu
Mae'r newyddiadurwr, y cyflwynydd a'r darlledwr Dewi Llwyd wedi cyhoeddi ei fod yn ymddeol ar ôl 46 mlynedd gyda'r BBC.
Ar hyd y blynyddoedd, mae Dewi wedi darlledu ar rai o brif ddigwyddiadau gwleidyddol y wlad, ac wedi cyflwyno rhaglenni canlyniadau 10 Etholiad Cyffredinol, etholiadau Senedd Cymru a phedwar refferendwm.
Mae wedi cyhoeddi bellach mai rhaglen ganlyniadau etholiad y Senedd ar BBC Radio Cymru fydd ei olaf, ac fe fydd yn cyflwyno Dros Ginio am y tro olaf ar 22 Mai.
Ymunodd Dewi Llwyd â'r gorfforaeth ym 1979, a'r rhaglen etholiad cyffredinol ym 1983 oedd yr un gyntaf iddo ddarlledu drwy'r nos, sef rhaglen etholiad gyntaf S4C.
Mae wedi bod yn bresennol mewn nifer o ddigwyddiadau arwyddocaol, gan gynnwys cyhoeddi canlyniad 'Ie' i ddatganoli ym 1997, a chanlyniad Brexit yn 2016.
Wrth gyhoeddi ei ymddeoliad, dywedodd Dewi wrth y BBC: "Wrth adael y BBC ar ôl 46 o flynyddoedd mae rhywun yn teimlo mor ddiolchgar am bob cyfle a gafwyd wrth gyflwyno llu o raglenni gwahanol, wrth ohebu o bedwar ban byd, ac wrth gael darlledu ar radio a theledu.
"Fyddai hyn oll ddim wedi bod yn bosibl heb gefnogaeth cenedlaethau o gydweithwyr ardderchog."
Ychwanegodd: "Ond mae dwy garfan arall y mae'n rhaid diolch iddyn nhw hefyd.
"Mi fydda i'n sicr o weld colli'r holl bobl huawdl a gwybodus yr ydw i wedi cael y fraint o'u holi ar hyd y degawdau.
"Ond fyddai yna ddim rhaglenni o gwbl heb y gynulleidfa sydd wedi aros mor deyrngar, yn wylwyr ac yn wrandawyr, ynghyd â'r miloedd o bobl y bûm mor ffodus o'u cyfarfod wrth baratoi rhaglenni fel Newyddion, Pawb a'i Farn, Hawl i Holi a Bore Sul."