Prydain a Ffrainc i anfon milwyr i Wcráin pe bai cytundeb heddwch gyda Rwsia

Zelensky, Macron a Starmer

Mae Prydain a Ffrainc wedi cytuno i anfon milwyr i Wcráin pe bai cytundeb heddwch gyda Rwsia.

Wrth siarad mewn cynhadledd i'r wasg ym Mharis brynhawn Mawrth, dywedodd Prif Weinidog y DU, Syr Keir Starmer y byddai "canolfannau milwrol" yn cael eu sefydlu ar draws Wcráin unwaith y bydd cytundeb heddwch yn ei le.

Yn dilyn y gynhadledd, a oedd hefyd yn cynnwys Arlywydd Ffrainc, Emmanuel Macron, a Volodymyr Zelensky o Wcráin, daeth datganiad gan Rif 10.

"Mae llofnodi'r datganiad yn paratoi'r ffordd ar gyfer sefydlu'r fframwaith cyfreithiol i luoedd Ffrainc a'r DU weithredu ar dir Wcráin, gan ddiogelu awyr a moroedd Wcráin ac adeiladu lluoedd arfog sy'n addas ar gyfer y dyfodol," meddai llefarydd ar ran Rhif 10.

"Yn y trafodaethau heddiw rydym hefyd wedi mynd i fwy o fanylion am fecaneg defnyddio'r llu ar lawr gwlad.

"Ar ôl y cadoediad bydd y DU a Ffrainc hefyd yn sefydlu 'canolfannau milwrol' ar draws Wcráin i alluogi'r defnydd ac adeiladu cyfleusterau gwarchodedig ar gyfer arfau ac offer milwrol i gefnogi anghenion amddiffynnol Wcráin."

Dywedodd Syr Keir bod angen i Vladimir Putin fod yn "barod i gyfaddawdu" er mwyn dod i gytundeb heddwch.

Ychwanegodd nad oedd Arlywydd Rwsia ar hyn o bryd yn "dangos ei fod yn barod am heddwch".

"Byddwn yn cadw'r pwysau ar Rwsia, gan gynnwys mesurau pellach ar danceri olew a gweithredwyr fflyd cysgodol sy'n ariannu cist ryfel Putin," meddai.

 


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.