Un wedi marw a saith mewn cyflwr difrifol wedi taith awyren o Heathrow i Singapore
Mae person wedi marw ac mae saith yn rhagor mewn cyflwr difrifol ar ôl cael eu hanafu ar daith awyren o Heathrow i Singapore, wedi i'r awyren daro tyrfedd (turbulence) difrifol.
Glaniodd yr awyren ar frys yng Ngwlad Thai, ac yn ôl yr awdurdodau yno, Prydeiniwr 73 oed oedd y dyn a fu farw ac roedd yn teithio ar yr awyren gyda'i wraig.
Y gred yw ei fod wedi cael trawiad ar y galon.
Mae 23 o deithwyr eraill wedi cael eu hanafu a naw aelod o'r criw.
Mae 14 o bobl wedi eu cludo i ysbyty, gyda mân anafiadau.
Mae gwraig y dyn a fu farw ymhlith y rhai sydd wedi eu cludo i'r ysbyty, ond dyw ei chyflwr ddim yn glir.
Dywedodd cwmni Singapore Airlines bod hediad SQ321 wedi ei gyfeirio i Bangkok, gan lanio yno am 15:45 amser lleol ddydd Mawrth.
Roedd 211 o deithwyr a chriw o 18 ar yr awyren ar y pryd.
Mewn datganiad, dywedodd Singapore Airlines: “Fe aeth hediad SQ321 Singapore Airlines o Heathrow yn Llundain i Singapore ar 20 Mai i mewn i dyrfedd difrifol.
"Gallwn gadarnhau bod anafiadau ac un farwolaeth ar fwrdd yr awyren."
Mewn datganiad newyddion brynhawn Mawrth, dywedodd rheolwr y maes awyr yng Ngwlad Thai fod pobl wrthi yn gwisgo'u gwregys pan darodd y tyrfedd.
Llun: Wikipedia/Sergey Ryabtsev