Dyn wedi marw ar ôl tân mewn tŷ yn Sir Ddinbych

 Ffordd Bryn Cwnin

Mae dyn wedi marw ar ôl tân mewn tŷ yn y Rhyl yn Sir Ddinbych dros y penwythnos.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i gyfeiriad ar Ffordd Bryn Cwnin yn y dref toc wedi 10.47 fore Sul.

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru bod dau griw o'r Rhyl a chriw o Abergele wedi cael eu hanfon yno.

Er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys i ddiffodd y tân, cafodd dyn ei ddarganfod yn farw yn yr adeilad.

Nid yw'r dyn wedi cael ei adnabod yn ffurfiol eto. Mae'r heddlu a'r gwasanaeth tân bellach yn ymchwilo i'r digwyddiad.

Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Mae ein meddyliau gyda theulu a ffrindiau'r dyn ar yr adeg anodd iawn hon."

Llun: Google Maps

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.