Cyn-Ysgrifennydd Cartre'r Ceidwadwyr Suella Braverman yn ymuno â Reform
Mae'r cyn-Ysgrifennydd Cartref Suella Braverman wedi cefnu ar y Ceidwadwyr ac ymuno â Reform UK.
Mewn digwyddiad ar gyfer cyn-filwyr yn Llundain a gafodd ei drefnu gan Reform, cyhoeddodd Ms Braverman ei bod wedi dad-ymaelodi ar ôl bod yn aelod o'r Ceidwadwyr ers 30 mlynedd.
Cadarnhaodd hefyd y bydd bellach yn cynrychioli ei hetholaeth, Fareham a Waterlooville yn Hampshire, fel aelod seneddol Reform UK.
Daw ei chyhoeddiad lai na phythefnos ers i'r cyn-Ysgrifennydd Tai a Gweinidog Mewnfudo'r Ceidwadwyr, Robert Jenrick adael y Torïaid ac ymuno â Reform UK.
Bellach mae gan blaid Nigel Farage wyth Aelod Seneddol yn San Steffan.
Ar y llwyfan yn y digwyddiad yn Llundain, dywedodd Ms Braverman mai Nigel Farage yw'r unig ddyn yng Ngwleidyddiaeth y DU sydd wedi bod yn "gyson ddewr."
'Dod adref'
Ychwanegodd iddi gael ei "diswyddo" a'i "chosbi" am "ddweud y gwir," oherwydd iddi ddweud y dylai'r DU adael y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol.
"Celwydd" yw addewid presennol y Ceidwadwyr i adael y confensiwn hwnnw, meddai.
Dywedodd wrth y dorf: "Rwy'n teimlo fy mod wedi dod adref."
Ychwanegodd: "Mae Prydain yn deilchion. Mae'n dioddef. Dyw hi ddim yn dda. Mae mewnfudo allan o reolaeth. Mae ein gwasanaethau cyhoeddus ar eu gluniau. Dyw pobl ddim yn teimlo'n ddiogel."
"Mae ein bobl ifanc yn gadael y wlad ar gyfer gwell dyfodol mewn llefydd eraill."
"Ry'n ni methu amddiffyn ein hunain, ac mae ein cenedl yn wan, ac yn cael ei gwawdio ar y llwyfan rhyngwladol."
"Felly rydym ni yn sefyll ar groesffordd."
"Gallwn naill ai fynd i lawr y llwybr gwan ac ildio. Neu gallwn drwsio ein gwlad, hawlio ein grym yn ôl, ac ail ddarganfod ein cryfderau," meddai.