Nigella Lawson i ymuno â'r Great British Bake Off

Nigella Lawson

Nigella Lawson fydd yn olynu'r Fonesig Prue Leith fel beirniad ar raglen y Great British Bake Off.

Mae gan y cogydd ac awdur "arbenigedd empathi a hiwmor" sef y "cynhwysion perffaith," yn ôl Channel 4 a'r cwmni cynhyrchu Love Productions.

Mewn datganiad, dywedodd Nigella Lawson: "Yn anarferol iawn, iawn does gen i ddim geiriau ar hyn o bryd.

"Wrth gwrs, mae'n dipyn o beth i ddilyn Prue Leith, a'i rhagflaenydd Mary Berry, dwy fonesig wych, ond rydw i hefyd yn llawn cyffro.

"Mae'r Great British Bake Off yn fwy na rhaglen deledu, mae'n drysor cenedlaethol, ac mae'n fraint enfawr."

Dywedodd y Fonesig Prue Leith: "Rydw i wrth fy modd y bydd Nigella yn profi'r anhygoel Bake Off. Mae hi'n llawn hwyl, ac yn adnabod ei nionod - a'i croissants, cacen a chrymbl."

Daeth y cyhoeddiad yr wythnos diwethaf bod y Fonesig Prue Leith yn gadael y rhaglen ar ôl beirniadu mwy na 400 her dros naw cyfres. 

Dechreuodd feirniadu gyda Paul Hollywood yn 2017 pam symudodd y gyfres o'r BBC i Channel 4.

Georgie Grasso, 34 oed o Gydweli, Sir Gaerfyrddin, yw'r unig enilydd o Gymru yn hanes y gyfres, wedi iddi gipio teitl y cogydd gorau yn 2024.

Roedd yn rhaid iddi gymryd rhan mewn 30 o heriau dros 10 pennod.

Bydd y Great British Bake Off yn dychwelyd yn ddiweddarach eleni ar gyfer y gyfres newydd gyda Nigella Lawson.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.