'Newid bywyd': Dynes o Fôn yn dathlu pen-blwydd aren yn 30 oed

Danielle Thomas - Aren 30

Mae dynes o Fôn wedi dathlu pen-blwydd ei haren yn 30 oed.

Yn wreiddiol o Wrecsam, ganwyd Danielle Thomas ag arennau diffygiol.

Fe wnaeth meddygon esbonio iddi y gallai dderbyn triniaeth dialysis, ond y byddai yn annhebygol o fyw heibio 10 oed.

Pan oedd yn saith mlwydd oed, cafodd drawsblaniad aren a “achubodd” ei bywyd ac mae ‘Sidney the Kidney’ wedi bod ganddi ers 30 o flynyddoedd bellach.

Erbyn hyn mae Danielle yn 37 oed ac mae hi'n falch o fod wedi gallu byw gyda’r aren am 30 mlynedd. Mae'n edrych ymlaen at y 30 nesaf.

Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd fod dathlu 30 mlynedd ers derbyn yr aren yn “foment” gan gofio’r adeg pan gafodd yr aren yn saith oed.

“Mae o’n deimlad bach yn rhyfedd achos, y pwynt yw, dwi’n cofio pan oeddwn i’n saith oed ac yn yr ysgol a gweld taid yn cerdded ar yr iard – o'n i’n gwybod fy mod yn mynd i gal trawsblaniad.

“Nes i neidio ar y ddesg – odd dim fel fi o gwbl a wedodd fy athrawes, ‘get down from the desk, I don’t know why your grandfather is here, but we’ll find out now.'

“Es i wedyn gyda Mam i’r ysbyty a ches i’r trawsblaniad.

“Mae o erioed di bod gôl fi i gyrraedd 30 mlynedd ers y trawsblaniad... ma gôl fi wedi newid rŵan – i gyrraedd 67!”

“Fi wastod yn ffocysu ar y positiveslife is for living.”

Image
Danielle - Aren 30

Soniodd hefyd am bwysigrwydd rhoi organau a thra’n parchu penderfyniadau pobl, dywedodd fod ei thrawsblaniad wedi “newid fy mywyd.”

“O'n i mor hapus i weld Cymru fel y wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig yn cyhoeddi system i optio allan [o roi organau].”

“Hebddo [y trawsblaniad], bydden i ddim yma, bydde mab fi ddim yma felly mae o'n life changing.”

“Mae wedi bod heriau ac yn lot o waith i edrych ar ôl ond os dwi’n blaenoriaethu ffitrwydd a bwyta’n iach, bydd yr aren yn well.

“Gan mai dim ond un aren sydd gen i, y mwyaf allen i gal yw 50% functionality ac mae o fel arfer rhwng 28 a 36%.

“Mae pobl yn dweud wrtha'i fy mod yn gwneud gormod, bod angen i mi arafu... Dwi’n dweud, dim ond un bywyd sydd gennych, ewch i fyw pob dydd fel petai’r un olaf a gwnewch y mwyaf o bopeth.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.