Cynnal angladd Terry Yorath yn Leeds

26/01/2026

Cynnal angladd Terry Yorath yn Leeds

Roedd cannoedd yn bresennol yn angladd cyn-chwaraewr a rheolwr pêl-droed Cymru, Terry Yorath yn Leeds ddydd Llun.

Fe gyrhaeddodd ei hers Eglwys Gatholig Immaculate Heart of Mary yn y ddinas wedi ei haddurno gyda blodau yn siâp baner Cymru, lliwiau Leeds United a’r geiriau ‘Dad’ a ‘Grandad’.

Roedd Côr Meibion Taf o Gaerdydd yn canu yn angladd Terry Yorath, gan ddweud wrth Newyddion S4C ei fod yn “anrhydedd anferth”. Dechreuodd yr angladd gyda chanu Hen Wlad fy Nhadau a Cwm Rhondda.

Daeth y gwasanaeth i ben wrth i'r côr ganu Danny Boy, You'll Never Walk Alone a Gwahoddiad.

Wrth roi teyrnged i'w dad yn yr angladd, dywedodd ei fab Jordan Yorath ei fod yn ddyn "doniol, caredig, gostyngedig a balch".

Bu farw Terry Yorath yn 75 oed ar 8 Ionawr ar ôl salwch byr.

Wedi ei eni a'i fagu yng Nghaerdydd, fe enillodd Terry Yorath 59 o gapiau dros Gymru rhwng 1969 a 1981 ac roedd yn hyfforddwr ar ei wlad rhwng 1988 ac 1993.

Roedd hefyd yn hyfforddwr ar Abertawe a Chaerdydd am gyfnodau yn y 1990au.

Sgoriodd Yorath 11 gôl mewn 199 o ymddangosiadau i Leeds United, ei glwb proffesiynol cyntaf, mewn cyfnod o naw mlynedd o 1967 ymlaen.

Roedd ganddo bedwar o blant, Jordan, Gabby, Louise a Daniel.

Bu farw Daniel yn 15 oed yn 1992 o gyflwr ar y galon wrth chwarae pêl-droed gartref gyda'i dad.

Wrth siarad yn yr angladd, dywedodd y cyflwynydd Elis James bod marwolaeth Daniel wedi "difrodi'r teulu a'r gymuned gyfan" ac wedi effeithio'n fawr ar Terry Yorath "am weddill ei fywyd".

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.