Côr Meibion Taf i 'gynrychioli Cymru drwy'r canu' yn angladd Terry Yorath

Côr Meibion Taf i 'gynrychioli Cymru drwy'r canu' yn angladd Terry Yorath

Fe fydd Côr Meibion Taf o Gaerdydd yn canu yn angladd cyn-gapten a rheolwr Cymru Terry Yorath ddydd Llun. 

Bu farw Yorath yn 75 oed ar ôl salwch byr ddechrau Ionawr.

Wedi ei eni a'i fagu yng Nghaerdydd, fe enillodd 59 o gapiau dros Gymru rhwng 1969 a 1981 ac roedd yn hyfforddwr ar ei wlad rhwng 1988 ac 1993.

Fe fydd ei angladd yn cael ei gynnal yn Leeds ddydd Llun, ac fe fydd Côr Meibion Taf yn cymryd rhan ynddo.

Dywedodd arweinydd y côr Steffan Jones wrth Newyddion S4C: "Mae’n anrhydedd anferth i fod yn perfformio yn yr angladd, nifer ohonom ni yn gefnogwyr pêl-droed brwd iawn yn y côr, ac yn gôr o Gymry balch iawn.

"Felly mae’n mynd i fod yn ddigwyddiad anhygoel ond emosiynol iawn, ond un y’n ni’n falch iawn o fod yn rhan ohono."

Ychwanegodd: "Mae’n golygu llawer i ni fel côr meibion Cymraeg ein hiaith bo’ ni’n mynd i allu perfformio a chyfrannu yn y ffordd honno i’r angladd, ac mae’n amlwg taw dyna oedd dymuniad Terry Yorath a dyna yw dymuniad y teulu hefyd."

Image
Terry Yorath
Fe enillodd Yorath 59 o gapiau dros Gymru

Dywedodd aelod o'r côr, Aled Richards, wrth Newyddion S4C: "Mae’n anrhydedd anhygoel i gael bod yn angladd Terry Yorath, ma’ fe’n mynd i fod yn brofiad anodd i ganu mewn sefyllfa mor emosiynol.

"Ond i ni gael y gwahoddiad i fynd lan ‘na a cynrychioli Cymru yn y canu, ar gyfer hwnna, mae’n mynd i fod wir yn arbennig iawn."

Ychwanegodd: "Dwi’n falch iawn bod Cymru yn cael ei chynrychioli, o’dd e’n amlwg bod gwreiddie Cymraeg Terry Yorath yn bwysig iawn iddo fe, ac i’r teulu, a mae’n anrhydedd cael cyfleu hynna yn y canu."

Sgoriodd Yorath 11 gôl mewn 199 o ymddangosiadau i Leeds United, ei glwb proffesiynol cyntaf, mewn cyfnod o naw mlynedd o 1967 ymlaen.

Yna arwyddodd i Coventry City ac yn ddiweddarach chwaraeodd i Tottenham Hotspur, y Vancouver Whitecaps a Bradford City, cyn gorffen ei yrfa chwarae gydag ymddangosiad unigol i Abertawe.

Ar ôl rhoi’r gorau i chwarae, bu’n rheolwr ar Abertawe, Cymru, Bradford, Caerdydd, Libanus, Sheffield Wednesday a Margate am gyfnodau.

Enillodd ddyrchafiad gydag Abertawe i'r Drydedd Adran yn 1988, ac roedd un gêm o gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd 1994 gyda Chymru.

Image
Roedd Terry Yorath yn rheolwr Caerdydd ac Abertawe am gyfnodau.
Roedd Terry Yorath yn rheolwr Caerdydd ac Abertawe am gyfnodau

Roedd yn cael ei ystyried fel "arwr" i Aled Richards. 

"Pan o’n i’n tyfu fyny, o’dd e’n arwr," meddai. 

"O’dd e yn chware i Leeds, chware i Gymru, buodd e yn rheolwr ar Abertawe ag o’dd e’n un o’r ffigyrau ‘ny o’dd jyst yn arwyr.

"O’dd pawb isie bod fel Terry Yorath so o’dd e wir yn ffigwr pwysig iawn wrth dyfu fyny."

Mae gan Steffan Jones hefyd atgofion ohono yn chwarae. 

"Mae'r côr yn llawn cefnogwyr pêl-droed felly mae cael cyfrannu at angladd Terry Yorath a digwyddiad fydd yn coffáu un o'n harwyr mawr ni yn fraint," meddai.

"Fy atgof cyntaf i oedd yn '93 yn y stadiwm ar gyfer y gêm dyngedfennol honno [yn erbyn Romania] ond mae nifer o atgofion melys iawn, nifer o gefnogwyr Leeds yn y côr hefyd ac felly mae'n mynd i fod yn ddigwyddiad fydd yn golygu lot fawr i nifer."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.