Sir Benfro: Dyn 89 oed wedi marw mewn gwrthdrawiad ger Abergwaun
Mae dyn 89 oed wedi marw mewn gwrthdrawiad ger Abergwaun, Sir Benfro.
Cafodd swyddogion eu galw i Ffordd yr Orsaf, Wdig, yn dilyn adroddiadau o wrthdrawiad ffordd un cerbyd ychydig ar ôl 21.45, ddydd Iau 22 Ionawr.
Aethpwyd â gyrrwr y cerbyd i'r ysbyty, ond dywedodd yr heddlu ei fod “yn anffodus bellach wedi marw”.
Cafodd y ffordd ei chau tra roedd y gwasanaethau brys yn y fan a’r lle.
