Newyddion S4C

Cyhoeddi enw'r dyn fu farw ar daith awyren o Heathrow i Singapore

22/05/2024
Awyren Singapore Airlines

Mae enw'r dyn o Brydain a fuodd farw ar hediad o Heathrow i Singapore wedi ei gyhoeddi.

Y gred yw bod Geoff Kitchen, 73 oed, wedi cael trawiad ar y galon ar ôl i’r awyren gael ei heffeithio gan dyrfedd (turbulence) difrifol.

Cafodd saith arall eu hanafu’n ddifrifol.

Mae grŵp theatr lleol roedd Mr Kitchen yn aelod ohono wedi ei ddisgrifio fel "gŵr bonheddig".

“Gyda chalon drom y gwnaethom ni glywed y newyddion ofnadwy am farwolaeth ein cydweithiwr a’n ffrind uchel ei barch”, meddai’r datganiad gan Thornbury Musical Theatre Group yn ne Swydd Gaerloyw.

"Mae e wedi gwasanaethu'r grŵp a chymuned leol Thornbury ers dros 35 mlynedd.

“Mae ein meddyliau gyda'i wraig a’r teulu ar yr amser anodd hwn."

'Ymddiheuro'

Roedd yn rhaid cludo 14 o bobl i'r ysbyty, gyda mân anafiadau.    

Mae gwraig Geoff Kitchen ymhlith y rhai sydd wedi eu cludo i'r ysbyty, ond dyw ei chyflwr ddim yn glir.    

Cafodd hediad SQ321 Singapore Airlines ei chyfeirio at Bangkok, gan lanio yno am 15:45 ddydd Mawrth.

Roedd 211 o deithwyr a chriw o 18 ar yr awyren ar y pryd.

Mewn datganiad newyddion brynhawn Mawrth, dywedodd rheolwr y maes awyr yng Ngwlad Thai fod pobl wrthi yn gwisgo'u gwregys pan ddigwyddodd y tyrfedd.

Mae pennaeth Singapore Airlines, Goh Choon Phong wedi “ymddiheuro am y profiad trawmatig” i’r rhai oedd ar yr awyren SQ321.

Dywedodd ei fod yn cydymdeimlo gyda theulu Mr Kitchen ac y byddai  "pob cymorth posib” yn cael ei rhoi i deithwyr ac aelodau’r criw.

Ychwanegodd bod y cwmni hedfan yn "cydweithredu'n llawn gyda'r awdurdodau perthnasol" tra eu bod yn cynnal ymchwiliad.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.