Newyddion S4C

Cipolwg ar benawdau'r bore

30/06/2021
Y Penawdau [NS4C]
NS4C

Bore da gan dîm Newyddion S4C. 

Dyma ein prif benawdau ar fore dydd Mercher, 30 Mehefin.

Cyfnod ceisiadau statws sefydlog dinasyddion yr UE yn dirwyn i ben

Mae’r cyfnod ymgeisio i ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, a’r Swistir i barhau i fyw a gweithio yn y Deyrnas Unedig yn dod i ben ddydd Mercher. Yn ôl ystadegau mwyaf diweddar y Swyddfa Gartref, mae 87,960 o geisiadau wedi cael ei wneud gan ddinasyddion yr UE sy'n byw yng Nghymru. O’r ffigyrau hyn mae 82,960 o’r ceisiadau wedi eu cwblhau, gyda 58% o bobl wedi derbyn statws sefydlog i barhau yng Nghymru, a 40% wedi derbyn statws ‘heb ei setlo eto’.

Syr Gareth Edwards yn galw am gydweithrediad i wella llygredd amaethyddol

Mae angen gwell cydweithrediad er mwyn atal llygredd afonydd ac i gael “cyflwr y dŵr i fynd nôl i be oedd e,” yn ôl Syr Gareth Edwards. Ers yn chwech oed, mae pysgota wedi profi’n ddihangfa i’r cyn-chwaraewr rygbi a’r pysgotwr brwd, ond dros y blynyddoedd mae wedi sylwi ar effaith llygredd ar ein hafonydd.

Cymorth pellach i fusnesau sydd wedi eu heffeithio gan gyfyngiadau Covid-19

Mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, wedi cyhoeddi y bydd busnesau yng Nghymru sy’n parhau i gael eu heffeithio gan gyfyngiadau Covid yn derbyn cymorth ariannol pellach gan Lywodraeth Cymru. Bydd gan fusnesau cymwys hawl i daliad ychwanegol o rwng £1,000 a £25,000, yn dibynnu ar eu maint, eu strwythur a'u hamgylchiadau, i gynnwys cyfnod hyd at ddiwedd mis Awst.

Menter gymunedol yn derbyn goriadau i ail-agor hen dafarn oedd ar gau

Mae cymuned yng Ngwynedd wedi derbyn goriadau i'w tafarn lleol ar ôl ymgyrch dorfol i'w phrynu. Mae tafarn Ty'n Llan wedi bod ar gau ers tair blynedd a hanner, ond mae gobeithion newydd i'w hail-agor wedi ymgyrch lwyddiannus gan gymuned Llandwrog.

'Degau o farwolaethau' yn Nghanada yn sgil tywydd poeth

Mae cred bod cyfnod o dywydd poeth yng Nghanada a thaleithiau Washington ac Oegon yn yr UDA wedi achosi degau o farwolaethau. Mae'r heddlu yn British Columbia yn dweud eu bod wedi ymateb i 65 achos o farwolaethau sydyn ers i'r cyfnod o wres mawr ddechrau yno ddydd Gwener.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.