Menter gymunedol yn derbyn goriadau i ail-agor hen dafarn oedd ar gau

Mae cymuned yng Ngwynedd wedi derbyn goriadau i'w tafarn lleol ar ôl ymgyrch dorfol i'w phrynu.
Mae tafarn Ty'n Llan wedi bod ar gau ers tair blynedd a hanner, ond mae gobeithion newydd i'w hail-agor wedi ymgyrch lwyddiannus gan gymuned Llandwrog.
Roedd rhaid i'r ymgyrch gasglu £400,000 i "achub" y dafarn erbyn 11 Mehefin.
Cyrhaeddodd y gymuned y nod yn gynharach fis Mehefin, gyda'r actor Rhys Ifans wedi cefnogi'r ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol, meddai North Wales Live.
Darllenwch y stori'n llawn yma.