'Degau o farwolaethau' yn Nghanada yn sgil tywydd poeth
30/06/2021
Mae cred bod cyfnod o dywydd poeth yng Nghanada a thaleithiau Washington ac Oegon yn yr UDA wedi achosi degau o farwolaethau.
Mae'r heddlu yn British Columbia yn dweud eu bod wedi ymateb i 65 achos o farwolaethau sydyn ers i'r cyfnod o wres mawr ddechrau yno ddydd Gwener.
Cafodd 103 record o gofnodion gwres uchaf eu torri yn nhaleithiau British Columbia, Alberta, Yukon a Thiriogaethau'r Gogledd-orllewin yng Nghanada ddydd Llun, meddai Sky News.
Mae hyn yn cynnwys y tymheredd uchaf erioed i gael ei gofnodi yn y wlad, sef 47.9C.
Darllenwch y stori'n llawn yma.