Diolch i’r ddynes roedd o’n ei alw’n nain wnaeth Tymoteusz Król am ddysgu’r iaith fechan, fregus sydd bellach yn ganolbwynt i’w fywyd.
Llond dwrn o bobl sy’n rhugl mewn Wymysiöeryś - neu Filamofeg - iaith o’r un teulu â’r Almaeneg sy’n cael ei siarad mewn un dref yn ne Gwlad Pwyl, Wilamowice, rhyw 50 milltir i’r gorllewin o Krakow.
Mae Tymoteusz - neu Tiöma Fum Dökter, i roi ei enw yn y Filamofeg - yn un o’r siaradwyr hynny ac yn ffigwr allweddol yn adfywiad yr iaith.
“Yn blentyn, roedd gen i gymdoges, modryb bell o’n i’n ei galw’n Nain ac oedd yn fy ngwarchod,” meddai wrth Newyddion S4C.
“Roedd siarad Filamofeg yn naturiol iddi. Efallai nad oedd hi’n bwriadu mynd ati i’m dysgu i, ond dyma’r iaith o’dd hi’n siarad efo pawb.”
Image
Tymoteusz
Erlid…
Bryd hynny, yn y 1990au, roedd Gwlad Pwyl yn agor eto wedi degawdau o gomiwnyddiaeth. Ac roedd y cyfnod hwnnw - yn enwedig y cyfnod wedi’r Ail Ryfel Byd - wedi bod yn galed ar siaradwyr yr iaith.
Er nad yn Almaenwyr - mae llawer o bobl Wilamowice yn hawlio’u bod yn ddisgynyddion i ymfudwyr o Fflandrys - cafodd y gymuned ei herlid wrth i Wlad Pwyl ailsefydlu ei hunaniaeth a’i hanibynniaeth wedi’r brwydro.
Cafodd rhai eu gyrru i wersylloedd carcharorion neu Siberia - ac roedd gwaharddiad am gyfnod ar ddefnyddio’r iaith a gwisgo gwisg draddodiadol y dref.
“Doedd o ddim yn gyfnod hawdd, â dweud y lleiaf, yn ôl straeon ein cymdogion,” meddai Teresa Grabara, brodor o Wilamowice.
Er ei bod hi ychydig yn rhy ifanc i brofi’r erlid ar ei waethaf, mae hi’n perthyn i’r genhedlaeth honno gafodd eu magu mewn Pwyleg ac wnaeth ddim etifeddu’r Filamofeg oherwydd pwysau allanol.
Fel ychydig gannoedd o’i chyfoedion, mae hi heddiw’n deall tipyn ond ddim yn siarad yr iaith.
“Os o’dd Mam a Nain eisiau dweud rhywbeth fel ‘mod i ddim yn deall, bydden nhw’n siarad Filamofeg,” meddai.
“A byddwn i’n mynd at Taid, fyddai’n cyfieithu!”
… ac adfer
Pan oedd Tymoteusz a’i gyfoedion yn eu harddegau cynnar, roedd darogan ymhlith ieithyddwyr y byddai’r iaith yn diflannu o fewn ychydig flynyddoedd - rhywbeth roedden nhw’n mynnu na ddylai ddigwydd.
Aeth Tymoteusz ati i ddechrau cofnodi siaradwyr cynhenid olaf yr iaith - gan adeiladu llyfrgell o dystiolaeth sydd wedi dod yn sail i eiriaduron, gramadeg ac astudiaethau academaidd o’r iaith.
Ar ben hynny, dechreuodd ddysgu eraill, gan fagu to o siaradwyr newydd sydd wedi cymryd yr iaith i’w calon. Drwy wersi, theatr a chân, mae’r iaith yn cael ei thynnu’n ôl o erchwyn y dibyn.
“Mae'r iaith Wymysioereg yn ddiddorol yn gyntaf oll oherwydd ei hanes o'r cyfnod a fu, ond hefyd oherwydd yr hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd,” meddai Tymoteusz.
“Mae ‘na bobl sydd dros 90 oed sydd wedi siarad yr iaith fel plant gyda'u rhieni, ac mae gennyn ni hefyd bobl ifanc iawn, yn iau na fi, sydd heddiw yn siarad yr iaith gyda'u ffrindiau.
“A ddigwyddodd hyn oherwydd, fel cenhedlaeth ifanc, 20 mlynedd yn ôl, wnaethon ni ddechrau gweithredu er mwyn i bobl ddechrau siarad yr iaith eto.”
Image
Canolbwynt yr holl weithgaredd erbyn hyn ydy Amgueddfa Diwylliant Wilamowice, adeilad newydd, modern sy’n gweithredu fel rhyw fath o ganolfan adfywio iaith, tra hefyd yn rhoi llwyfan i draddodiadau ac agweddau caled o hanes lleol.
Y llynedd, cafodd prosiect adfywio ieithyddol traws-Ewopeaidd Fosterlang - sy’n cynnwys academyddion o Gymru - ei lansio yn yr amgueddfa.
‘Labordy iaith’
“Mae Wilamowice yn cael ei gweld gan academyddion fel dipyn o labordy ieithyddol,” meddai Justyna Majerska-Sznajder, neu Jüśja Fum Biöetuł yn yr iaith gynhenid, sy’n ymgyrchydd ac yn bennaeth ar yr amgueddfa.
“Mae ‘na gyn lleied ohonyn ni yma, mae’n iaith mor fach, os ‘dyn ni’n defnyddio rhyw ddull i adfywio neu gefnogi’r iaith, mae’n hawdd gweld beth sy’n gweithio a beth sydd ddim.”
Mae hi, fel mam i ddwy o ferched, yn cydnabod ei bod yn anodd pasio iaith mor fechan ymlaen i’r genhedlaeth nesaf pan fo’r Bwyleg yn tra-arglwyddiaethu.
Ond mae’n hyderus fod dyfodol i’r iaith - yn enwedig gan fod rhai pobl iau i’w gweld yn cymryd iaith i’w calon - ac yn ei defnyddio mewn memes ar-lein, hyd yn oed.
I Anna Nowak, sy’n ei 20au cynnar ac yn aelod ffyddlon o grŵp dawns a chanu traddodiadol y dref, mae adfer iaith ei theulu yn ffordd o barchu’r gorffennol - ond yn rhan bwysig o’i dyfodol, mae’n gobeithio, hefyd.
“Byddwn i’n hoffi i bobl beidio ag ofni siarad, mwy na dim,” meddai. “Ac i fod yn ddigon dewr i ddysgu.
“Ac efallai pan fydda’ i’n hŷn ac yn rhiant, byddwn i’n hoffi i ‘mhlant i siarad yr iaith - mae fy mhartner i, sydd ddim yn dod o Wilamowice, wedi dweud y byddai’n hapus i ddysgu’r iaith,” meddai.
Image
Siaradwr newydd arall ydy Paweł Szutof (yng nghanol y llun uchod) - myfyriwr doethuriaeth, a’r cyntaf i ysgrifennu traethawd hir drwy gyfrwng yr iaith. Nid brodor o’r dref ydy Paweł, ond mae ganddo ddiddordeb mawr mewn ieithoedd lleiafrifol yng Ngwlad Pwyl.
“Beth mae esiampl Filamofeg yn ei ddangos i ni ydy bod modd gwneud rhywbeth i atal iaith rhag diflannu, hyd yn oed gyda nifer fechan iawn o wirfoddolwyr - dogfennu, ysgrifennu llawlyfrau, dysgu eraill, ei meithrin mewn cerddoriaeth ac ar lafar,” meddai.
Gwrthod deddf
Mae heriau’n parhau i’r iaith, er hynny. Y llynedd, cafodd cyfraith fyddai wedi rhoi statws swyddogol i Filamofeg ei gwrthod gan arlywydd Gwlad Pwyl, y ceidwadwr Karol Nawrocki.
Ac mae’r iaith hon yn parhau dan fygythiad difrifol, er y camau breision sydd wedi eu cyflawni.
Ond o edrych ymlaen - mae Tymoteusz yn gweld dyfodol i’r iaith.
“Fy mreuddwyd ydy gallu mynd i unrhyw siop yn Wilamowice, archebu rhywbeth yn y Filamofeg a bod person arall yn deall ac yn ateb ym mha bynnag iaith sydd well ganddyn nhw, Pwyleg neu Filamofeg,” meddai.
“‘Dan ni wedi dod yn rhyw fath o symbol o’r ffaith bod modd gwneud rhywbeth, hyd yn oed os ydy’r sefyllfa’n edrych yn anobeithiol.
“Hyd yn oed pe bai’r iaith yn marw fory - a dydw i ddim eisiau gweld hynny’n digwydd, wrth gwrs - mae beth sydd wedi digwydd hyd yma yn rhyw fath o ryfeddol.”