Gyrrwr a chi wedi marw mewn gwrthdrawiad ym Mhowys

a470 llansteffan a llyswen.jpg

Mae gyrrwr a chi wedi marw mewn gwrthdrawiad ar ffordd yr A470 ym Mhowys nos Sadwrn.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod wedi derbyn adroddiad am wrthdrawiad un cerbyd, sef Audi A5 a oedd ar dân.

Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng Llyswen a Llansteffan tua 19:30 nos Sadwrn.

Fe aeth car Peugeot 2008 oedd wedi ei barcio gerllaw ar dân hefyd.

Bu farw gyrrwr yr Audi yn y fan a’r lle, yn ogystal â'r ci a oedd yn sedd gefn y car.

Doedd neb yn y Peugeot ar y pryd. 

Mae perthynas agosaf y gyrrwr wedi cael gwybod, meddai'r heddlu.

Cafodd y ffordd ei chau er mwyn cynnal ymchwiliad, cyn ailagor tua 17:00 ddydd Sul.

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio ar unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad, neu sydd ag unrhyw wybodaeth neu luniau camera dashfwrdd a allai gynorthwyo’r ymchwiliad, i gysylltu â’r heddlu gan ddyfynnu’r cyfeirnod 26000814083.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.