Dyn 69 oed mewn cyflwr difrifol ar ôl gwrthdrawiad mewn maes parcio

Co-op Cwmbach

Mae dyn 69 oed mewn cyflwr difrifol ar ôl gwrthdrawiad rhwng cerddwr a fan mewn maes parcio yn Aberdâr.

Cafodd Heddlu’r De eu galw i faes parcio siop Co-Op Cwmbach am 07.30 ar fore Iau 1 Hydref yn dilyn adroddiad o wrthdrawiad rhwng cerddwr a fan Ford Transit llwyd.

Mae dyn 69 oed yn yr ysbyty ar hyn o bryd mewn cyflwr difrifol ond sefydlog.

Dywedodd y Rhingyll Heddlu Matthew Thomas o'r Uned Plismona Ffyrdd: "Hoffem ddiolch i unigolion a wnaeth ein cynorthwyo yn y fan a'r lle, a hoffem glywed gan unrhyw un a allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad, neu sydd ag unrhyw ddeunydd fideo o gamera dashfwrdd o'r digwyddiad, neu a welodd sut yr oedd y cerbydau'n cael eu gyrru cyn y gwrthdrawiad."

Mae unigolion sydd ag unrhyw wybodaeth am y digwyddiad yn cael eu hannog i gysylltu â'r llu gan ddyfynnu’r cyfeirnod 2600321133.

Llun: Google Maps

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.