‘Llais gyda ni am byth’: Cofio Llinos Dryhurst-Roberts
Mae’r cynhyrchydd Nia Dryhurst wedi dweud bod gwneud rhaglen ddogfen gyda’i chwaer Llinos wedi rhoi cyfle i’r ddwy “ailgydio” yn eu perthynas ar ôl blynyddoedd o fyw bywydau tra gwahanol.
Fe fuodd Llinos Dryhurst-Roberts, 53 oed, farw ddiwedd mis Medi.
Wrth gofio Llinos, dywedodd Nia ei bod yn “gymeriad” oedd yn llawn hiwmor.
Cafodd Llinos ei magu yn ardal Caernarfon ac, ar ôl gadael yr ysgol, dewisodd ymuno â’r fyddin yn hytrach na mynd i’r brifysgol.
Ymunodd â’r lluoedd arfog yn 21 oed a bu’n gwasanaethu yn Bosnia. Yna aeth i weithio i’r Weinyddiaeth Amddiffyn yn Llundain.
Aeth wedyn i Irac i weithio i gwmni diogelwch preifat, lle cafodd ei hanafu’n ddifrifol mewn ffrwydrad.
Yn ddiweddarach, bu’n gweithio i’r gwasanaeth cudd am ychydig dan ddegawd, cyn dychwelyd i Gaernarfon.
Roedd y ddwy chwaer yn destun rhaglen ddogfen bersonol S4C, DRYCH: Chwaer Fach, Chwaer Fawr, a ddarlledwyd yn 2021.
Roedd y rhaglen yn dilyn y ddwy wrth iddyn nhw geisio dod i ddeall ei gilydd yn well ar ôl i’w bywydau fynd ar lwybrau gwahanol.
Wrth siarad â Newyddion S4C yn dilyn marwolaeth ei chwaer, dywedodd Nia fod y broses o gynhyrchu’r ffilm wedi rhoi cyfle iddyn nhw “ailgydio” yn eu perthynas.
“Mi oedd ein bywydau ni wedi mynd ar lwybrau mor wahanol,” meddai.
“Mi oedd gynnon ni flynyddoedd o beidio medru dallt ein gilydd cystal ag y gallen ni.
“Er bod ni’n deulu agos, mi oeddwn i’n ffeindio hi’n anodd dallt sut oedd hi’n gweld y byd.”
Dywedodd fod profiadau’r ddwy wedi bod mor wahanol nes eu bod, ar adegau, “fel caws a sialc”.
Ond roedd gwneud Chwaer Fach, Chwaer Fawr wedi rhoi cyfle iddyn nhw ddod yn nes at ei gilydd unwaith eto.
“Roedd y ffilm yn gyfle i ni fedru ailgydio yn ein perthynas a rhoi cyfle i ni fedru deall ein gilydd.
“Cyfle i ni fedru siarad yn agored a dod i ddeall ein gilydd yn well unwaith eto.”
Dywedodd Nia y gall rhaglen ddogfen, ar ei gorau, fod “fel therapi”, gan roi cyfle i bobl ddweud pethau na fydden nhw o reidrwydd yn teimlo’n gyfforddus yn eu dweud fel arall.
“Mi roddodd y ffilm gyfle i ni fedru bod yn dyst i fywydau’n gilydd,” meddai.
Dywedodd fod y broses wedi rhoi cyfle iddyn nhw deimlo’n saff wrth ddweud pethau oedd yn anodd, gan arwain at “gyfamodi yn y diwedd”.
‘Cymeriad’
“Ro’n i’n cael lot o hwyl yn ei chwmni hi,” meddai Nia.
Dywedodd nad oedd Llinos bron byth yn cyrraedd tŷ’r teulu’n waglaw, gan ddod â siocledi neu fara brith gyda hi.
Roedd hi hefyd bob amser yn cofio am anrhegion pen-blwydd a’r Nadolig.
Mewn enghraifft arall o’i charedigrwydd a’i hagwedd at fywyd, roedd Llinos wedi dysgu mab Nia sut i hwylfyrddio ar ôl bod yn hyfforddwraig yn y gamp ei hun.
Roedd hi wedi byw bywyd amrywiol, gan dreulio cyfnod yn y lluoedd arfog a gweithio dramor cyn dychwelyd i Gymru.
Yn y blynyddoedd diweddar, roedd wedi cwblhau un cwrs prifysgol ac wedi dechrau cwrs arall i hyfforddi i fod yn weithiwr cymdeithasol.
Fe fuodd hefyd yn rhan bwysig o wasanaeth Canolfan Groeso Caernarfon yn Oriel Pendeitsh am flynyddoedd, gan weithio’n rhan-amser gyda HWB Caernarfon tan ganol mis Mai eleni.
Mewn teyrnged, dywedodd HWB fod gwybodaeth leol Llinos yn “eithriadol” a’i bod bob amser yn barod i helpu ymwelwyr, rhoi cyngor neu ddod o hyd i’r wybodaeth oedd ei hangen arnyn nhw.
Dywedodd y sefydliad ei bod yn cael ei gwerthfawrogi’n fawr gan ymwelwyr a’i chydweithwyr.
Mae hynny’n cyd-fynd ag atgofion Nia am ei chwaer.
“Roedd hi’n berson cymdeithasol iawn.
“Roedd pawb yn ’nabod hi yng Nghaernarfon. ’Nabod pawb.”
Bellach, mae’r rhaglen a roddodd gyfle i’r ddwy chwaer ailgydio yn eu perthynas hefyd yn gofnod parhaol o Llinos.
Mae Nia’n dweud nad yw’n teimlo’n barod i wylio Chwaer Fach, Chwaer Fawr eto, ond mae’n credu y daw’r adeg pan fydd hi’n gallu dychwelyd ati.
“Mi fydd ei llais gyda ni am byth rŵan.”