‘Y clwb anffodus’: Sut ddaeth canser y fron â Mari Grug ac Angharad Williams yn ffrindiau agos
Fe aeth Mari Grug i gefnogi Angharad Williams wrth iddi godi arian yn ystod ei thriniaeth am ganser y fron. Flwyddyn yn ddiweddarach, cafodd Mari ddiagnosis o’r clefyd ei hun.
Er eu bod yn adnabod ei gilydd drwy gysylltiadau teuluol, Taith Tractor Binc yn 2017 ddaeth â’r ddwy yn nes at ei gilydd.
Roedd Angharad yn 41 oed pan gafodd ddiagnosis o ganser y fron cam dau y flwyddyn honno.
Wrth siarad â’r rhaglen Ffermio, dywedodd: “Roedd y newyddion yma yn dipyn o sioc i bawb ar y pryd. Aeth bywyd ben i waered dros nos.”
Cafodd lawdriniaeth y mis ar ôl ei diagnosis, cyn cael cemotherapi a radiotherapi.
“Symudodd pethau’n gyflym iawn. Ges i ddiagnosis mis Mai, llawdriniaeth mis Mehefin a wedon nhw pryd ’ny, o’n nhw’n barnu bod y canser wedi bod arna i am chwe mis ac roedd e wedi trafaelu dros hanner lymphs yn barod.
“’Swn i ddim wedi mynd, i le bydde fe wedi trafaelu wedyn?”
Er ei bod yng nghanol cemotherapi, fe wnaeth Angharad gymryd rhan mewn Taith Tractor Binc o Fferm Panteg i godi arian yn 2017.
Roedd Mari Grug yno yn ystod y digwyddiad, yn gohebu arno ar gyfer y rhaglen Heno.
‘Y clwb anffodus’
“2017 oedd y foment naethon ni ddod i nabod ein gilydd yn iawn mewn ffordd,” meddai Mari.
“O’n i ddim â syniad beth oedd o ’mlaen i yn 2017.”
Flwyddyn yn ddiweddarach, cafodd Mari ei hun ddiagnosis o ganser y fron.
“A wedyn, blwyddyn ar ôl hynny, ddes i i ymuno â’r clwb anffodus ’na o gael canser y fron ac ers hynny wedyn ni wedi dod yn ffrindiau mawr.”
Dywedodd Mari fod profiad Angharad wedi bod yn gymorth iddi wrth wynebu ei diagnosis ei hun.
“Dwi’n meddwl oedd gweld ymateb Angharad, ffordd oedd hi’n delio gyda fe, yn ferch ffarm hefyd, yn byw ar ffarm ac yn rhan o’r gymuned arbennig yma.
“Fi’n teimlo mae hi wedi bod yn lot o hwb i fi herio ac i bwsho pethau. ‘Paid bod ofn gofyn am hwn. Mae hwn ar gael.’ Felly na, mae’r gefnogaeth wedi bod yn wych.”
Mae Mari bellach yn byw gyda chanser metastatig ac yn llysgennad Ymchwil Canser Cymru.
Dywedodd fod datblygiadau mewn triniaethau yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr i bobl sy’n byw gyda chanser na ellir ei wella.
“I bobl fel fi sydd gyda chanser nad oes gwella ohono fe, mae unrhyw beth yn mynd i wneud gwahaniaeth mawr i roi misoedd, blynyddoedd ychwanegol gyda teulu a ffrindiau yn werth y byd.”
Mae Angharad a’i theulu wedi codi dros £100,000 ers ei diagnosis.
Wrth sôn am bwysigrwydd codi arian, dywedodd Mari: “Dyna ble mae’r arian yn mynd wedyn, gobeithio i helpu pobl, mwy o ymchwil a bod ’na gyffuriau a thriniaethau newydd yn dod mas i roi gobaith i bobl fel fi a phobl sy’n byw gyda chanser metastatig.”
Cefnogaeth Angor
Mae Angharad wedi bod yn cymryd rhan mewn digwyddiadau cymdeithasol gydag elusen Angor.
Mae’r elusen yn cynnig cefnogaeth gymdeithasol ac emosiynol i bobl sydd wedi’u heffeithio gan ganser neu salwch, yn ogystal â’u teuluoedd.
Dywedodd Mary Elder Richards o Angor ei bod wedi gweld yr angen am y math hwnnw o gefnogaeth o oedran ifanc.
“Ro’n i’n ifanc iawn pan gafodd mami ddiagnosis gyda chanser. Roedd hwn yn y saithdegau.
“Doedd neb yn dweud gair. Doedd dim un man i fynd, neb yn siarad â hi, doedd mam i ddim yn gallu siarad â neb.”
Mae ei pherthynas hi ag Angor bellach wedi dod yn fwy personol wedi i’w gwraig gael diagnosis o ganser y pancreas ym mis Chwefror.
“Ro’n i byth wedi meddwl bydden ni’n un o’r bobl oedd yn mynd yno gyda’r wraig.
“Roedd hi’n dweud ar y start, ‘Sa i moyn mynd, sa i moyn mynd.’
“Nawr mae hi’n licio mynd achos mae pobl, mae hi’n dweud, ‘maen nhw’n nabod, maen nhw’n debyg i fi ac maen nhw’n deall.’
“Fi wedi gweld o’r ddwy ochr.”
Adnabod newidiadau
Daw’r stori wrth i fis Hydref nodi Mis Ymwybyddiaeth Canser y Fron.
Dywedodd y meddyg teulu, Dr Llinos Roberts, ei bod yn bwysig i bobl ddod i adnabod beth sy’n arferol i’w bronnau eu hunain.
“Yr hyn sy’n bwysig ydy dod i nabod ein bronnau ni’n hunain, oherwydd dim ond wrth wybod beth sy’n normal i ni y gallwn ni ddod i adnabod unrhyw newidiadau sydd i ffwrdd o’r normal.
“Unrhyw beth sydd allan o’r cyffredin i unrhyw unigolyn.”
Ymhlith y newidiadau i fod yn wyliadwrus ohonyn nhw mae:
- Unrhyw newid i siâp y fron
- Lympiau neu chwyddo
- Newid i’r croen, gan gynnwys y croen yn tynnu i mewn
- Brech neu gochni ar y croen
- Newid i’r deth, gan gynnwys y deth yn tynnu i mewn
- Poen newydd yn y fron
Dywedodd ei bod hefyd yn bwysig gwirio’r fron gyfan, gan gynnwys yr ardal sy’n ymestyn i’r gesail.
“Byddwn i’n argymell, os yw rhywun yn ffeindio unrhyw newid, hyd yn oed os ydyn nhw ddim yn siŵr, mae’n llawer gwell mynd i gael ei checio’n gynnar.
“Oherwydd os ydan ni’n dal rhywbeth yn gynnar, mae’n llawer haws ei drin o’n gynnar na gadael i bethau ddatblygu.”
Ychwanegodd Dr Roberts fod canser y fron yn gallu effeithio ar ddynion hefyd.
“Mae canser y fron yn llawer mwy cyffredin mewn menywod nag ydy mewn dynion, ond mae canser y fron yn gallu effeithio ar ddynion hefyd.”
Byw bywyd i’r eithaf
Wrth edrych yn ôl ar ei diagnosis ei hun, dywedodd Angharad:
“Mae jyst rhaid byw bywyd i’r eithaf achos does neb yn gwybod beth mae yfory’n dod gyda fe.
“Os chi’n gweld rhywbeth sydd ddim fel arfer, ewch at y doctor.
“’Sen i heb fynd, fyddwn i ddim yma heddiw.”
Bydd mwy am y stori hon ar Ffermio nos Lun am 21:00 ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer.