Ymchwiliad llofruddiaeth: Dod o hyd i gorff yn Sir Ddinbych ar ôl adroddiad bod fan ar dân
Mae'r heddlu yn ymchwilio i lofruddiaeth ar ôl i gorff gael ei ddarganfod ym Mhrestatyn yn Sir Ddinbych nos Sul.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Lôn Gas Works tua 23:30 ar ôl adroddiad bod fan ar dân.
Cafodd corff ei ddarganfod y tu mewn, medden nhw.
Nid yw'r unigolyn wedi'i adnabod ar hyn o bryd, meddai Heddlu'r Gogledd.
Bydd yr heddlu’n cadw’r ardal gyfagos ar gau ddydd Llun er mwyn i swyddogion gynnal eu hymholiadau, medden nhw.
Dywedodd y Ditectif Uwcharolygydd Chris Bell: “Mae swyddogion yn gweithio’n gyflym i ganfod pwy yw’r unigolyn.
“Unwaith y byddwn yn gwybod pwy yw’r unigolyn, bydd swyddogion sydd wedi cael hyfforddiant arbenigol yn cael eu neilltuo i gefnogi’r teulu cyn gynted â phosibl.
“Rydyn ni’n deall y gallai’r digwyddiad hwn beri pryder yn y gymuned leol, ac rydw i am roi sicrwydd i’r cyhoedd fod presenoldeb amlwg gan yr heddlu yn yr ardal.
“Byddwn yn apelio ar unrhyw un oedd yn ardal Lôn Gas Works ym Mhrestatyn rhwng 22:45 a 23:45 ddoe, ac a welodd neu a glywodd unrhyw beth anarferol, i gysylltu â ni.”
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai helpu’r ymchwiliad gysylltu â Heddlu’r Gogledd drwy’r gwasanaeth sgwrsio byw ar eu gwefan, drwy ffonio 101, neu’n ddienw drwy Crimestoppers, gan ddyfynnu’r cyfeirnod 0163930.