Newyddion S4C

Cymorth pellach i fusnesau y mae cyfyngiadau Covid-19 wedi effeithio arnynt

30/06/2021
Caerdydd

Mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, wedi cyhoeddi y bydd busnesau yng Nghymru sy’n parhau i gael eu heffeithio gan gyfyngiadau Covid yn derbyn cymorth ariannol pellach gan Lywodraeth Cymru.

Bydd gan fusnesau cymwys hawl i daliad ychwanegol o rwng £1,000 a £25,000, yn dibynnu ar eu maint, eu strwythur a'u hamgylchiadau, i gynnwys cyfnod hyd at ddiwedd mis Awst.

Dywed y llywodraeth eu bod yn "benderfynol" o helpu busnesau - ond mae'r Ceidwadwyr wedi galw am graffu'r manylion yn llawn yn y Senedd ddydd Mercher. 

Fe fydd y pecyn cymorth brys yn talu costau gweithredu ar gyfer mis Gorffennaf a mis Awst i fusnesau sydd wedi gorfod aros ar gau ac yn parhau i ddioddef yn ddifrifol o ganlyniad i barhad y cyfyngiadau.

Bydd busnesau o’r sectorau lletygarwch, hamdden a thwristiaeth sydd yn dal yn cael eu heffeithio’n ddifrifol gan gyfyngiadau yn gymwys i dderbyn pecyn cymorth.

Yn ogystal, fe fydd asiantaethau teithio, atyniadau y mae’r mesurau cadw pellter wedi cyfyngu arnynt a lleoliadau ar gyfer ymweliadau ysgol, hefyd yn gymwys i wneud cais am gymorth.

Cefnogaeth 'angenrheidiol'

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething: “Ers dechrau’r pandemig, rydym wedi gwneud popeth yn ein gallu i gefnogi busnesau Cymru.

“Rydym wedi darparu dros £2.5biliwn o gyllid i fusnesau Cymru, mewn pecyn sydd wedi’i gynllunio i ategu ac adeiladu ar y cymorth a ddarperir gan Lywodraeth y DU.

“Rydym hefyd wedi ymestyn ein pecyn rhyddhad ardrethi o 100% i fusnesau tan ddiwedd y flwyddyn ariannol hon.

“Mae’r dull hwn sydd wedi’i dargedu, sy’n canolbwyntio’n benodol ar gefnogi busnesau bach a chymunedau Cymru, wedi helpu i ddiogelu dros 160,000 o swyddi yng Nghymru a allai fod wedi’u colli fel arall.

“Er mwyn cefnogi busnesau ymhellach, rwyf heddiw yn cyhoeddi cymorth ychwanegol i helpu i dalu’r costau’r busnesau hynny yng Nghymru y mae angen iddynt aros ar gau, neu sy’n dal i ddioddef yn sgil y newid graddol yng Nghymru i Lefel Rhybudd Un, a oedd yn angenrheidiol oherwydd y risgiau a achosir gan yr amrywiolyn Delta.

“Mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o wneud popeth yn ei gallu i gefnogi busnesau Cymru yn ystod cyfnod anodd hwn.”

'Manylion yn hollbwysig'

Er yn croesawu’r cynllun, dywed y Ceidwadwyr Cymreig eu bod yn “siomedig” na chafodd y cyhoeddiad ei roi gerbron y Senedd. 

Dywedodd y Gweinidog Cysgodol dros yr Economi, Paul Davies AS: “Yn anffodus, mae busnesau’n dal i dalu’r pris am addewidion gwag Llafur yn etholiad y Senedd, ac felly mae’n hanfodol bod yr arian hwn yn cyrraedd busnesau mor fuan â phosib fel y bod modd gwarchod swyddi Cymru. 

“Fel y gwelsom gyda chyhoeddiadau blaenorol am gymorth i fusnesau, mae manylion yn hollbwysig, ac felly dylai’r gweinidogion annerch y Senedd heddiw er mwyn amlinellu maint y gefnogaeth, y meini prawf a’i chynlluniau ar gyfer y gronfa adfer.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.