Newyddion S4C

Cyfnod ceisiadau statws sefydlog dinasyddion yr UE yn dirwyn i ben

30/06/2021
Teithwyr mewn maes awyr

Mae’r cyfnod ymgeisio i ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, a’r Swistir i barhau i fyw a gweithio yn y Deyrnas Unedig yn dod i ben ddydd Mercher.

Yn ôl ystadegau mwyaf diweddar y Swyddfa Gartref, mae 87,960 o geisiadau wedi cael ei wneud gan ddinasyddion yr UE sy'n byw yng Nghymru.

O’r ffigyrau hyn mae 82,960 o’r ceisiadau wedi eu cwblhau, gyda 58% o bobl wedi derbyn statws sefydlog i barhau yng Nghymru, a 40% wedi derbyn statws ‘heb ei setlo eto’.

Fe gydweithiodd Llywodraeth Cymru gyda gwasanaethau trydydd sector er mwyn cynorthwyo dinasyddion gyda’u ceisiadau statws, yn cynnwys Cyngor ar Bopeth.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor ar Bopeth Cymru, Rob Palmizi: "Byddem yn annog pobl i ofyn am ein cymorth cyn gynted â phosibl ond bydd help ar gael o hyd ar gyfer ceisiadau hwyr ar gyfer pobl sy'n gymwys i gael statws o dan Gynllun Setliad yr UE lle mae'r cais yn debygol o gael ei ddosbarthu fel un sy'n cwrdd â 'seiliau rhesymol' a osodwyd gan y Swyddfa Gartref.

"Fodd bynnag, os wnewch gais yn hwyr efallai na fyddwch yn gallu dangos i ddarpar gyflogwr fod gennych hawl i weithio nes i chi gael eich statws.

“Gallech hefyd golli rhai hawliau eraill i driniaeth iechyd a budd-daliadau,” ychwanegodd.

Mae dros 400,000 o geisiadau wedi eu casglu gyda’r Swyddfa Gartref, yn ôl elusen Settled.

Dywedodd llefarydd ar ran yr elusen: “Mae ein neges yn glir – mae’n rhaid i bawb wneud cais cyn y dyddiad cau, sef hanner nos 30 Mehefin.

“Wedi’r dyddiad yma, bydd y rhai sydd heb wneud cais,  mewn gwirionedd yn colli eu hawl i ofal iechyd, addysg, budd-daliadau, yr hawl i weithio, ac wynebu’r perygl o gael eu gorfodi i adael y wlad yn y pendraw.”

Yn ôl y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Senedd Cymru, Jane Hutt AS, mae pryderon yn parhau am y 40% sydd wedi derbyn statws ‘heb ei setlo eto’, gan y bydd angen iddynt ymgeisio am statws preswylwyr sefydlog pan fyddant yn gymwys i wneud hynny.

Mewn datganiad i’r Senedd yn gynharach ym mis Mehefin, dywedodd y gweinidog y byddai angen “cefnogaeth barhaus” o ganlyniad i geisiadau hwyr ac apeliadau ar ôl y dyddiad cau.

“Yn anffodus, nid ydym ni’n gwybod maint yr her sy’n parhau, gan nad yw’n bosibl cyfrifo’n gywir nifer dinasyddion yr UE yng Nghymru nad ydyn nhw wedi gwneud cais,” dywedodd.

“Y rheswm dros hyn yw nid yw Llywodraeth y DU yn gwybod faint yn union o ddinasyddion yr UE sy’n gymwys i wneud cais.

“Rhagwelwyd i ddechrau bod tua 70,000 o ddinasyddion cymwys o’r UE / AEE yn byw yng Nghymru, ond mae amcangyfrifon mwy diweddar gan awdurdodau lleol yng Nghymru yn awgrymu y gallai fod tua 95,000 o ddinasyddion cymwys yr UE.

“Er gwaethaf yr ansicrwydd, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ddarparu amrywiaeth helaeth o gymorth yn y gobaith y gall cynifer o ddinasyddion yr UE â phosibl ennill statws sefydlog.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.