Newyddion S4C

Syr Gareth Edwards yn galw am gydweithrediad i wella llygredd amaethyddol

Syr Gareth Edwards yn pysgota

Mae angen gwell cydweithrediad er mwyn atal llygredd afonydd ac i gael “cyflwr y dŵr i fynd nôl i be oedd e,” yn ôl Syr Gareth Edwards.

Ers yn chwech oed, mae pysgota wedi profi’n ddihangfa i’r cyn-chwaraewr rygbi a’r pysgotwr brwd, ond dros y blynyddoedd mae wedi sylwi ar effaith llygredd ar ein hafonydd.

“Cymru oedd un o’r llefydd gorau i gael pysgod fel brillyth, sewin, eog, samwn”, meddai wrth raglen Y Byd ar Bedwar.

“Fuon ni’n gweld pysgod yn gorwedd fan hyn fel oil slick – falle 100 o nhw, 100 o sewin neu gant o bysgod yn gorwedd lawr ar hyd y pwll fan ‘na. Mae’n anodd credu ar ddiwrnod fel hyn – ni ‘di gweld un neu ddau.

“Dyw e ddim cystal â beth oedd e, ond ma’ rhaid i ni drio cal cyflwr y dŵr, cyflwr yr afonydd i fynd nôl i be’ oedd e” meddai.

Fe anfonodd Y Byd ar Bedwar gais rhyddid gwybodaeth i Gyfoeth Naturiol Cymru i weld faint o achosion o lygredd amaethyddol sydd wedi eu cofnodi dros y bedair mlynedd ddiwethaf.

Yn ôl y ffigyrau, mae bron i 600 o achosion o lygredd amaethyddol wedi bod yn afonydd Cymru ers 2017, gyda bron hanner o’r rheiny o ganlyniad i slyri. 

Mae’r afon Tywi wedi profi 35 achos o lygredd amaethyddol yn y cyfnod yma, ac mae Gareth Edwards wedi sylwi ar ei effaith ar yr afon. 

Image
Amgylchedd

“Ma’ rhaid ni jyst werthfawrogi be’ sy’ da ni a neud yn siŵr bod ni ddim yn creu problem yn y blynyddoedd i ddod,” meddai.

“Ma’ rhaid i ni gael pob un i dynnu at ei gilydd, i ddod at ei gilydd a chwarae rhan yn yr holl sefyllfa. Nage dweud bai nhw yw e, bai fe yw e - dewch i ni gael bod gyda’n gilydd a rhoi pwysau tu ôl yr ysgwydd i gael yr atebion iawn.”

Yn ôl Llywodraeth Cymru mae digwyddiadau o lygredd amaethyddol yn parhau i fod yn gyson iawn, gyda mwy na thri bob wythnos ar gyfartaledd yn ystod y tair blynedd diwethaf.

I geisio mynd i’r afael â’r broblem, mae’r Llywodraeth yn cyflwyno rheoliadau newydd ar y sector amaeth.

Ym mis Ebrill eleni, daeth y rheolau yma i rym gan droi holl dir Cymru yn Barth Perygl Nitradau, neu “NVZ” - sef ardal lle mae dŵr mewn perygl o lygredd gan nitradau - yn bennaf gan slyri a gwrtaith amaethyddol.  

Mae’r rheolau yn cynnwys cyfnodau caeth pan nad oes hawl i wasgaru slyri, fe fydd yn orfodol i storfa ddal o leiaf pum mis o slyri, ac mae angen gorchuddio storfeydd i osgoi glaw rhag casglu.

Mae’r rheolau yn cael eu cyflwyno mewn camau dros y tair blynedd nesaf. Bydd ffermwyr yn cael eu cosbi os nad ydynt wedi cydymffurfio erbyn hynny.

I Andrew Jones, sydd wedi bod yn ffermio yng Nghwmann ger Llanbedr Pont Steffan am bron i hanner canrif, mae’r rheolau yn bryder.

Mae’n dweud bydd y gost o gydymffurfio gyda’r rheolau yn ergyd fawr i’w fusnes.

“Fi’n ofni, rhwng popeth, bydd e’n costio £100,000 o leiaf. Dyw e ddim werth e i fi, s’mo ni’n dweud ‘na digon. Bydden i’n gorffen ffarmo, ond achos y mab, mae iddo fe nawr, ma’ rhaid iddo fe gael ei gyfle.”

Image
ITV
Mae Mr Jones yn dweud bod y rheolau yn rhoi ffermydd teuluol "o dan straen".

Mae fferm Andrew Jones wedi bod yn y teulu ers bron i ganrif. Ei fab, Tomos, fydd y bedwaredd genedlaeth i ffermio yn Felindre Uchaf.

Ond yn ôl Mr Jones, sy’n 66 oed, mae’r rheolau newydd yn rhoi ffermydd teuluol dan straen aruthrol:

“Ma’ ffermydd teuluol yn mynd i golli. Ffermwyr sy’n cyfoethogi cefn gwlad, na’r brethyn. Ffermydd teuluol sy’n rhoi sefydlogrwydd i gefn gwlad ac i’r diwylliant ac i’r iaith.”

Cyn y rheolau newydd roedd ffermwyr yn gallu gwasgaru slyri trwy gydol y flwyddyn gyda rhai cyfyngiadau.

Yn sgil y rheolau newydd bydd cyfnodau rhwng Awst a Ionawr pan fydd gwasgaru yn erbyn y gyfraith - ac mae Andrew yn poeni y gallai hyn waethygu’r sefyllfa. 

“Beth fi’n ofni nawr yw – pan ddaw’r 15fed o Ionawr bydd popeth yn mynd mas, bydd popeth yn llawn a gorlifo a llygru. Gobeithio ddim, ond fi yn ofni na.”

'Gofid parhaol'

Yn ogystal â’r straen ariannol, mae hefyd yn pryderu am effaith feddyliol y newidiadau ar ffermwyr. 

Ma’ fy nghyfoedion i wedi ymddeol i gyd, ac mae’r gofid hyn yn dod nawr, ma’n rhoi stress i chi, chi ddim yn cysgu wedyn… mae’n ofid parhaol.”

“Fi wedi colli un ffrind eleni, o’dd y pwysau rhy gryf iddo fe. A fi’n ofni. ‘Na beth sy’n rhyfedd yw maen nhw’n sôn am iechyd ffermwyr gyda’r Covid ‘ma a dwi’n poeni am hunanladdiad ymysg ffermwyr, ond ma’ hwn yn ergyd fawr iddyn nhw.”

Mae Andrew Jones, sy’n godro 85 o wartheg ger yr afon Teifi, yn cydnabod bod y rheolau yn “symud i’r cyfeiriad iawn”, ond eu bod yn llawer rhy llym.

Mae’n galw ar Lywodraeth Cymru a’r Gweinidog dros Faterion Gwledig, Lesley Griffiths i “ail-ystyried, a defnyddio bach mwy o synnwyr cyffredin.”

“Roedd Lesley Griffiths wedi addo y byddai hi ddim yn cyflwyno dim byd yn ystod Covid. Ma’ hi wedi bod yn hollol ddi-drugaredd i gyflwyno’r mesur ‘ma nawr.”

Mewn ymateb, dywedodd Lesley Griffiths wrth Y Byd ar Bedwar nad oedd y penderfyniad yn un “byrbwyll o gwbwl.” 

“Mae’r rheolau wedi cymryd pum mlynedd cyn dod i rym. Eleni yn barod, ry’n ni wedi gweld 76 achos o lygredd amaethyddol, felly tra’n bod ni’n siarad am y peth, mae’r achosion yn dal i gynyddu.

“Mae’n rhaid gorfodi pobl i newid os ydyn ni am weld y sefyllfa yn gwella. Yn amlwg, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn gorfodi’r newid, ond dydyn ni heb weld digon o bobl yn cael eu herlyn.

“Mae’n rhaid i ni fynd i wraidd y broblem”, meddai.

Mewn datganiad, dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru eu bod yn cymryd cyfrifoldebau dros ansawdd dŵr o ddifrif, a bod hyn yn cynnwys cymryd camau gorfodi pan fo angen.

Fe ddywedon nhw bod "rheoleiddio a gorfodi ond yn ddwy elfen o fynd i’r afael â llygredd amaethyddol", a bod cyfuniad o gyngor, arweiniad, addysg a buddsoddiad yn bwysig hefyd. 

Fis diwethaf, pleidleisiodd Senedd Cymru dros adolygiad i’r rheolau newydd, a bydd y ddeddfwriaeth newydd yn gorfod cael ei werthuso ymhellach gan bwyllgor o aelodau.

Yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru, “mater i’r pwyllgor ydyw i benderfynu beth fydd yr adolygiad yn ystyried, ac mae rhaid i'r ffocws nawr fod ar weithredu'r rheoliadau a mynd i'r afael â'r lefelau annerbyniol o lygredd.”

Y Byd ar Bedwar, nos Fercher y 30ain o Fehefin am 20:25 ar S4C. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.