Dyn 30 oed o Wrecsam yn euog o ddynladdiad

Thomas Iveson

Mae dyn 30 oed wedi ei gael yn euog o ddynladdiad dyn o Wrecsam a gafodd ei ganfod yn farw gan ei ffrindiau yn ei gartref. 

Roedd Thomas Iveson o Lôn Llyndir, Burton Rossett, wedi gwadu llofruddio Craig Richardson, 37 oed, yn ei dŷ yn ardal Plas Madoc, Acrefair ar 23 Chwefror eleni.

Image
Craig Richardson
Craig Richardson

Ddydd Gwener fe gafodd rheithgor Iveson yn euog o ddynladdiad yn dilyn achos llys naw diwrnod o hyd yn Llys y Goron yr Wyddgrug. 

Roedd Iveson wedi mynd adref gyda Craig Richardson i’w fflat yn ystod oriau mân y bore ar 23 Chwefror. 

Yn ddiweddarach y bore hwnnw, fe ddaeth ffrindiau Craig o hyd iddo wedi marw. 

Roedd wedi dioddef “nifer o anafiadau trychinebus ac angheuol,” meddai Heddlu Gogledd Cymru. 

Cafodd Iveson ei arestio wedi’r digwyddiad ar amheuaeth o lofruddiaeth. 

Dywedodd ei fod wedi gweithredu er mwyn amddiffyn ei hun ar ôl i Craig ymosod arno.

Mi disgwyl i Iveson gael ei ddedfrydu yn Llys y Goron yr Wyddgrug ar ddydd Gwener, 28 Tachwedd.

Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Emma Faulkner o Heddlu Gogledd Cymru: “Mae ein meddyliau a’n cydymdeimlad efo teulu Craig heddiw, wrth iddyn nhw barhau i alaru eu colled.

“Maen nhw wedi bod yn hynod o ddewr drwy gydol yr achos, ac er na all unrhyw ganlyniad wneud iawn am golli bywyd, dwi’n gobeithio bydd euogfarn Iveson heddiw yn dechrau dod â thawelwch i deulu Craig wrth iddyn nhw ddod i delerau efo trychineb ei farwolaeth.”

Mewn teyrnged iddo ar y pryd, dywedodd ei deulu ei fod yn ddyn “llawn hwyl” ac y bydd “colled ar ei ôl am byth”.

“Roedd Craig yn fab, tad, brawd, ewythr, nai, cefnder, partner a ffrind cariadus i lawer ac roedden ni i gyd yn ei garu â'n holl galonnau,” meddai’r teulu. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.