Apêl i ddioddefwyr eraill ar ôl honiad bod Neil Foden wedi troseddu 40 mlynedd yn ôl
Mae awdur adroddiad sydd yn honni bod y pedoffeil Neil Foden wedi cam-drin menyw dros 40 mlynedd yn ôl wedi apelio i ddioddefwyr ddod ymlaen i rannu eu profiadau.
Cafodd Foden, 68 oed, oedd yn gyn-brifathro ar Ysgol Friars ym Mangor, ei garcharu am 17 mlynedd y llynedd ar ôl ei gael yn euog o 19 o droseddau cam-drin rhywiol yn ymwneud â phedair merch.
Fe wnaeth adroddiad Adolygiad Ymarfer Plant, a gafodd ei gyhoeddi ddydd Mawrth, amlygu 52 o gyfleoedd a gafodd eu methu i atal Foden rhag parhau i droseddu.
Mae Jan Pickles OBE, oedd yn gyfrifol am yr adroddiad fel cadeirydd annibynnol panel yr adolygiad, wedi dweud ei bod yn “pryderu fod yna ragor o ddioddefwyr allan yna.”
Mewn cyfweliad â Newyddion S4C, dywedodd Ms Pickles: “Roedd y ddioddefwraig gyntaf i ddod i siarad gyda ni, nad oedd wedi bod yn rhan o’r broses droseddol, wedi disgrifio Foden yn cyffwrdd ei bronnau yn 1979 pan yr oedd hi'n blentyn, ac yntau yn ei swydd ddysgu gyntaf.
“Mae yna fwlch sylweddol ble y gwnaeth pobl, ar y pryd, benderfynu peidio â dod ymlaen, ac efallai fod yna ddioddefwyr eraill allan yna.
"Fe hoffwn i wneud apêl iddyn nhw ddod ymlaen, oherwydd mae cymorth a chefnogaeth ar gael.
"Nid yw’r mwyafrif o bobl sy’n dioddef camdriniaeth rhyw fel plant yn dod ymlaen. Dy’n nhw ddim yn siarad allan. Mae’r rhan fwyaf yn mynd â’r peth i’w bedd.”
Fe ychwanegodd: “Mae yna botensial sylweddol fod yna ddioddefwyr eraill.
"O safbwynt yr adolygiad, rydym wedi siarad â dau berson sydd heb fynd at yr heddlu ac sydd ddim yn teimlo’n barod i wneud hynny, ac maen nhw wedi cael cysylltiadau gwasanaethau cefnogol. Ond fy mhryder i yw bod yna ragor allan yna.
“Yn aml beth sy’n ysgogi pobl i wneud ydy marwolaeth y person cyfrifol, neu farwolaeth eu rhieni eu hunain, gan fod nhw’n teimlo fel bod nhw’n eu gwarchod nhw rhag i’w rhieni feddwl eu bod wedi eu gadael i lawr.
“Efallai nad yw pobl eisiau dod ymlaen i’r heddlu ond mi fyddwn i’n erfyn ar unrhyw un i gysylltu gyda’r heddlu. Hyd yn oed os nad ydyn nhw’n ddioddefwyr Foden, efallai eu bod nhw wedi dioddef camdriniaeth gan berson sydd bellach wedi marw – rhannwch eich gwybodaeth gyda’r heddlu.”
'Rheolau Foden'
Roedd yr adroddiad 107 o dudalennau o hyd yn dweud bod Foden wedi creu diwylliant o ofn ymhlith staff yr ysgol dros gyfnod o flynyddoedd.
Wedi marwolaeth y cyn ddirprwy bennaeth yn 2018, fe wnaeth Foden ymgymryd â dyletswyddau arweinydd diogelu plant yr ysgol, gan benodi staff newydd oedd yn ddibrofiad yn y maes, fel nad oedd modd ei herio.
“Datblygodd Foden system ddiogelu wedi'i staffio yn fwriadol gan staff dibrofiad a gwan a oedd yn teimlo nad oeddent yn gallu ei herio neu eu bod yn anghymwys i wneud hynny,” medd yr adroddiad.
Wrth drafod y pwnc ymhellach gyda Newyddion S4C, dywedodd Ms Pickles: “Roedd yna gyfleoedd i’w stopio’n gynharach.
“Prif ddull gweithredol pedoffeil soffistigedig fel Foden oedd rheoli’r amgylchedd. Doedd o ddim yn dechrau wrth gyffwrdd mewn plentyn. Roedd yn dechrau wrth reoli’r amgylchedd a thynnu’r rhwystrau oedd yn ei atal rhag cael mynediad at blant.
“Roedd Ysgol Friars wedi arfer â’i ymddygiad, roedd ei ymddygiad wedi’i normaleiddio.
“Roedd yn gallu hudo pobl, roedd yn gallu bod yn ddychrynllyd. Roedd pawb yn gweld y risg o’i herio, roedd yn gallu gwneud bywyd yr aelod o staff yn uffern.
“Fe wnaeth greu prosesau gweithredu safonol ei hun ac addasu polisïau oedd wedi eu rhoi gan yr awdurdod lleol. Lle'r oedd yr oruchwyliaeth ar hynny?
“Fe wnaeth greu awyrgylch ble mae’r unig reolau oedd rheolau Foden.”
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/1986364943210336350
Fe gafodd ei benodi yn bennaeth strategol ar Ysgol Dyffryn Nantlle yn 2021, blynyddoedd wedi’r adroddiadau cyntaf am ei ymddygiad amhriodol.
“Yn fwriadol, roedd yn chwilio am blant oedd eisoes yn fregus ac yn dod i'w hadnabod nhw," meddai Jan Pickles.
"Rydym yn gweld hynny pan yr aeth i'r ail ysgol, pan aeth i mewn a gofyn i staff pam fod y plentyn ar eu pen eu hunain yn y ffreutur ginio, ac fe ddywedodd wrthyn nhw, peidiwch â phoeni, alla i gefnogi’r plentyn yna.
“Roedd hyn yn 'red flag' i’r staff a glywodd hyn, ac fe wnaeth yr ysgol weithredu’n gyflym i gyfeirio ei ymddygiad i’r gwasanaethau plant.”
Ymateb
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd mewn ymateb i gyfweliad Jan Pickles OBE gyda Newyddion S4C:
“Mae Cyngor Gwynedd yn derbyn holl ganfyddiadau’r Adolygiad Ymarfer Plant; yn cymryd cyfrifoldeb am y methiannau sy’n cael eu hamlygu; yn ymddiheuro’n gwbl ddidwyll i’r holl ddioddefwyr ac yn ymrwymo i weithredu ar argymhellion yr adroddiad a gwella trefniadau diogelu yn ysgolion y sir.
“Byddwn yn edrych yn fanwl ar bob cyfle a fethwyd sydd wedi ei adnabod yn yr adroddiad, gan gynnwys sut y bu i staff ymateb i wahanol sefyllfaoedd.”
Os ydych chi eisiau adrodd unrhyw achos o gam-drin rhywiol, mae cymorth ar gael yma:
Canolfan Gefnogi Trais a Cham-drin Rhywiol - Gogledd Cymru (RASASC)
Ffôn: 01248 670 628 | E-bost: info@rasawales.org.uk
Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru
Ffon: 01824 712903 | E-bost: regionalsafeguarding@denbighshire.gov.uk
Canolfan Cyfeirio Ymosodiadau Rhywiol - Amethyst - Gogledd Cymru
Ffôn: 01492 805 384 | E-bost: BCU.Amethyst@wales.nhs.uk
Cefnogaeth Dioddefwyr (Victim Support)
Ffôn: 0300 303 0161
Byw Heb Ofn
Ffôn: 0808 80 10 800 Neges testun: 07860077333 Ebost: gwybodaeth@llinellgymorthbywhebofn.cymru
Heddlu
Ffôn: 999 neu'n ddi-enw drwy Crimerstoppers: 0800555111
Os ydych wedi cael eich heffeithio gan faterion sydd yn cael eu trafod yn yr erthygl hon, mae cymorth ar gael yma.