Dynes o Gaerdydd yn ddieuog o stelcian teulu Madeleine McCann

Karen Spragg

Mae dynes o Gaerdydd wedi ei chael yn ddieuog o stelcian teulu Madeleine McCann.

Roedd Karen Spragg, 61 oed, yn destun achos yn Llys y Goron Caerlŷr ar y cyd gyda Julia Wandelt, 24 oed, o Lubin yn ne-orllewin Gwlad Pwyl.

Penderfynodd y rheithgor nad oedd Julia Wandelt yn euog o stelcio, ond yn euog o aflonyddu ac fe gafwyd Karen Spragg yn ddieuog o stelcio ac aflonyddu.

Daliodd Wandelt a Spragg ddwylo yn y doc cyn y dyfarniad, a ddaeth ar ôl i'r rheithgor drafod am fwy na saith awr.

Fe wnaeth Wandelt, a oedd yn eistedd wrth ymyl Spragg yn y doc, anadlu'n sydyn wrth glywed y dyfarniadau, tra bod Spragg wedi dechrau wylo.

Nododd y barnwr Mrs Justice Cutts yn syth ar ôl y dyfarniadau mai’r ddedfryd uchaf am aflonyddu oedd chwe mis o garchar.

Dywedodd y barnwr: “Rwy’n credu ei bod hefyd yn ffaith bod Julia Wandelt wedi bod yn y ddalfa ers ei harestio ym mis Chwefror eleni.

“Felly bydd hi wedi bod yn y ddalfa am gyfnod hirach na’r ddedfryd uchaf.”

Diolchodd y barnwr i’r rheithgor am eu gwasanaeth yn yr achos a’u “gofal a sylw” wrth ystyried y dystiolaeth.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.