Arestio dau wedi marwolaeth babi mewn ymosodiad gan gi tarw XL

Ymosodiad ci Sir Fynwy

Mae dau o bobl wedi eu harestio mewn ymchwiliad i farwolaeth babi mewn ymosodiad gan gi y penwythnos diwethaf yn Sir Fynwy.

Bu farw’r babi yn y fan a’r lle wedi’r ymosodiad gan gi tarw XL (XL bully) mewn cartref yn ardal stryd Crossway, Rogiet, sef cymuned y tu allan i Gil-y-coed, tua 18.00 ar ddydd Sul 2 Tachwedd.

Cafodd dau unigolyn o Rogiet eu harestio ar amheuaeth o fod yn gyfrifol am gi peryglus allan o reolaeth oedd wedi achosi anaf a arweiniodd at farwolaeth.

Fe ychwanegodd Heddlu Gwent fod y ddau berson hefyd wedi'u harestio ar amheuaeth o esgeuluso plentyn.

Mae'r ddau wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth wrth i ymholiadau'r heddlu barhau. Mae'r ci wedi ei ddifa ers y digwyddiad.

Dywedodd Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu Gwent, Vicki Townsend: “Gwnaed yr arestiadau fel rhan o ystod eang o ymholiadau y mae swyddogion yn eu cynnal i ddeall amgylchiadau'r farwolaeth.

“Mae'r ymholiadau hyn yn dal i fynd yn eu blaen ac felly fe fyddwch yn parhau i weld swyddogion yn yr ardal; os oes gennych unrhyw wybodaeth neu bryderon, peidiwch ag oedi cyn cysylltu â ni.

“Rwy'n deall bod llawer o ddiddordeb yn yr achos yma yn ein cymunedau, ond mae hwn bellach yn ymchwiliad troseddol byw.

“Mae'n hanfodol bod pobl yn meddwl am sut y gallai eu sylwebaeth ar-lein, yn enwedig sylwadau neu bostiadau cyfryngau cymdeithasol, effeithio ar yr ymchwiliad parhaus a'r broses cyfiawnder troseddol."

Ychwanegodd: “Rydym yn annog pobl i beidio â dyfalu, os oes gennych unrhyw wybodaeth, gan gynnwys gwybodaeth am y ci dan sylw - ci tarw gwrywaidd, du XL - a'i ymddygiad blaenorol, cysylltwch â ni'n uniongyrchol.

“Unwaith eto, mae fy nghydymdeimlad a’m meddyliau gyda phawb yr effeithiwyd arnynt gan y farwolaeth drasig hon, o fewn y gymuned a thu hwnt.”

Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu gyda'r heddlu gan ddyfynnu cyfeirnod 2500349915.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.