Cyhuddo tri dyn o ladd y llofrudd Kyle Bevan yng Ngharchar Wakefield
Mae tri o garcharorion wedi cael eu cyhuddo o ladd y llofrudd plentyn Kyle Bevan yng Ngharchar Wakefield ddydd Mercher, meddai Heddlu Gorllewin Sir Efrog.
Y tri sydd wedi eu cyhuddo yw Mark Fellows, 45 oed, Lee Newell, 56 oed, a David Taylor, 63 oed.
Roedd Bevan, 33 oed, oedd yn wreiddiol o Aberystwyth, yn treulio dedfryd o garchar am oes am lofruddio Lola James, merch ddwy oed ei bartner, ym mis Gorffennaf 2020.
Bu farw'r ferch fach yn yr ysbyty bedwar diwrnod ar ôl dioddef mwy na 100 o anafiadau yng nghartref y teulu yn Hwlffordd, Sir Benfro.
Clywodd Llys y Goron Abertawe ei bod hi wedi dioddef sawl mis o gam-drin corfforol cyn ei marwolaeth.
Cafwyd Bevan yn euog ar ôl achos llys a chafodd ddedfryd o leiaf 28 mlynedd yn y carchar ym mis Ebrill 2023.
Cafodd mam Lola ei charcharu am chwe blynedd ar ôl i reithgor ei chael yn euog o achosi neu ganiatáu marwolaeth ei merch.
Daw marwolaeth Bevan lai na mis ar ôl i gyn-ganwr y Lostprophets, Ian Watkins, farw yn yr un carchar yn dilyn ymosodiad arno.