Newyddion S4C

Cip olwg ar benawdau'r bore

28/06/2021
Y Penawdau [NS4C]
NS4C

Bore da gan dîm Newyddion S4C.

Mae'n fore Llun a dyma olwg ar rai o'r prif straeon ar ein gwasanaeth ar 28 Mehefin.

Achosion Covid-19 ysgolion y gogledd ar eu huchaf ers mis Rhagfyr - North Wales Live

Mae achosion o'r coronafeirws yn ysgolion y gogledd bellach ar eu huchaf ers diwedd 2020.  Mewn ychydig dros dair wythnos, mae lefelau'r haint wedi mwy na threblu - gyda'r cynnydd yn fwyaf amlwg yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.  Mae disgwyl i'r Gweinidog Addysg, Jeremy Miles, arwain cynhadledd Llywodraeth Cymru yn ddiweddarach ddydd Llun.

Ymestyn cynllun i warchod busnesau rhag cael eu troi allan

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymestyn cynllun cymorth ar gyfer busnesau yn ystod y pandemig.  Bwriad y mesurau yw gwarchod busnesau rhag cael eu troi allan os ydyn nhw’n methu â thalu rhent.  Roedd y mesurau i fod i ddod i ben yn wreiddiol ar 30 Mehefin, ond fe fydd yn cael ei ymestyn tan 30 Medi 2021.

Portiwgal yn cyflwyno cyfyngiadau i deithwyr o'r DU heb eu brechu - The Independent

Portiwgal yw'r wlad ddiweddaraf i gyflwyno cyfyngiadau ar gyfer teithwyr o Brydain sydd heb eu brechu rhag Covid-19.  Fe fydd angen i deithwyr o'r Deyrnas Unedig ddangos prawf eu bod wedi eu brechu'n llawn o leiaf pythefnos o flaen llaw, neu fe fydd angen iddyn nhw hunanynysu am gyfnod o 14 diwrnod.

Rhai byrddau iechyd ddim yn cael ‘cyfran deg’ o fuddsoddiad, medd y Ceidwadwyr

Nid yw byrddau iechyd Betsi Cadwaladr a Hywel Dda yn cael eu cyfran deg o fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru, yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig.  Mae'r blaid yn honni fod yna wahaniaethu rhwng ardaloedd gwledig a dinesig Cymru, gyda byrddau iechyd y de yn derbyn mwy o fuddsoddiad fesul pen.  Dywed Llywodraeth Cymru eu bod wedi ymrwymo i ddarparu gofal o ansawdd uchel i bobl Cymru, ble bynnag maent yn byw.

Siom i Macron a Le Pen yn etholiadau rhanbarthol Ffrainc

Bu siom i ddau o wleidyddion amlycaf Ffrainc dros nos wedi cyfres o etholiadau rhanbarthol yn y wlad.  Ni lwyddodd plaid yr Arlywydd Emmanuel Macron, Republique en Marche, na'r blaid asgell-dde Rassemblement national, dan arweiniad Marine Le Pen, i ennill rhanbarthau eu hunain. 

Dilynwch y diweddaraf ar wasanaeth Newyddion S4C drwy gydol y dydd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.