Newyddion S4C

Achosion Covid-19 ysgolion y gogledd ar eu huchaf ers mis Rhagfyr

North Wales Live 28/06/2021
Ysgolion Covid

Mae achosion o'r coronafeirws yn ysgolion y gogledd bellach ar eu huchaf ers diwedd 2020.

Mewn ychydig dros dair wythnos, mae lefelau'r haint wedi mwy na threblu - gyda'r cynnydd yn fwyaf amlwg yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Ar 31 Mai, roedd y gyfradd o achosion mewn ysgolion dros gyfnod o dri diwrnod yn y rhanbarth yn 0.33 achos bob dydd, ond erbyn 22 Mehefin fe gododd y ffigwr i 26.33 achos, yn ôl North Wales Live.

Mae hyn yn uwch na phegwn yr ail don ar 11 Rhagfyr, pan oedd achosion ar gyfartaledd yn 25.33 bob dydd a arweiniodd at gau ysgolion ynghynt na'r disgwyl.

Fe fydd y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles yn arwain cynhadledd Llywodraeth Cymru ddydd Llun am 12:30 a bydd modd dilyn y cyfan ar wasanaeth Newyddion S4C.

Darllenwch y stori'n llawn yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.