Newyddion S4C

Ymestyn cynllun i warchod busnesau rhag cael eu troi allan

28/06/2021
Stryd Caerdydd

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymestyn cynllun sy’n gwarchod busnesau rhag cael eu troi allan os ydyn nhw’n methu â thalu rhent.

Roedd y moratoriwm ar fforffedu tenantiaeth i fod i ddod i ben yn wreiddiol ar 30 Mehefin, ond bydd yn cael ei ymestyn tan 30 Medi 2021.

Mae’r cynllun yn anelu i helpu’r sectorau sydd wedi’u heffeithio gan Covid-19.

Wrth gyhoeddi’r ymestyniad, dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething fod y llywodraeth wedi “defnyddio pob sbardun posibl” i gefnogi busnesau yn ystod y pandemig.

“Rydyn ni wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau swyddi a bywoliaeth i bobl.

“Dyna pam dw i’n cyhoeddi estyniad arall i’r mesurau i atal busnesau rhag fforffedu eu tenantiaid am beidio â thalu rhent, a fydd yn diogelu busnesau rhag cael eu troi allan.

Gyda chyfyngiadau Covid-19 dal mewn grym, mae’r sectorau manwerthu, lletygarwch a hamdden a thwristiaeth yn parhau i gael eu heffeithio gan newidiadau’r pandemig.

Mae’r llywodraeth yn annog tenantiaid a landlordiaid i drafod ac i gytuno ar sut i fynd i’r afael ag unrhyw ôl-ddyledion.

Yn y cyfamser, mi fydden nhw’n mynd ati dros y misoedd nesaf i ystyried sut i fynd i’r afael ag ôl-ddyledion rhent masnachol sydd wedi casglu yn ystod y pandemig.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.