Siom i Macron a Le Pen yn etholiadau rhanbarthol Ffrainc
28/06/2021
Bu siom i ddau o wleidyddion amlycaf Ffrainc dros nos wedi cyfres o etholiadau rhanbarthol yn y wlad.
Ni lwyddodd plaid yr Arlywydd Emmanuel Macron, Republique en Marche, i ennill rhanbarth ei hun.
Nid oedd y blaid yn bodoli yn 2015 ar adeg yr etholiad rhanbarthol diwethaf, yn ôl Sky News.
Roedd siom hefyd i'r blaid asgell-dde Rassemblement national, dan arweiniad Marine Le Pen, a fethodd i ennill un o'r 12 rhanbarth roedd yn sefyll ynddi.
Mae disgwyl i'r canlyniadau gynnig blas o farn y bobl wrth i'r wlad baratoi at bleidleisio yn yr etholiadau Arlywyddol yn 2022.
Darllenwch fwy am y canlyniadau yma.
Llun: Senedd Ewrop (drwy Flickr)