Newyddion S4C

Portiwgal yn cyflwyno cyfyngiadau i deithwyr o'r DU heb eu brechu

The Independent 28/06/2021
Portiwgal

Portiwgal yw'r wlad ddiweddaraf i gyflwyno cyfyngiadau ar gyfer teithwyr o Brydain sydd heb eu brechu rhag Covid-19. 

Mae llywodraeth y wlad wedi symud y Deyrnas Unedig i'r un categori risg uchel â De Affrica, Brasil, India a Nepal, yn ôl The Independent.

Fe fydd rhaid i'r holl deithwyr o'r DU hunanynysu adref neu mewn lleoliad sydd wedi ei neilltuo gan awdurdodau iechyd am gyfnod o 14 diwrnod.

Os bydd pobl yn gallu profi eu bod wedi eu brechu'n llawn o leiaf pythefnos o flaen llaw, ni fydd angen iddyn nhw hunanynysu.

Darllenwch y manylion yn llawn yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.