Newyddion S4C

Rhai byrddau iechyd ddim yn cael ‘cyfran deg’ o fuddsoddiad, medd y Ceidwadwyr

28/06/2021
Ysbyty

Nid yw byrddau iechyd Betsi Cadwaladr a Hywel Dda yn cael eu cyfran deg o fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru, yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig.

Maen nhw’n dweud fod yna wahaniaethu rhwng ardaloedd gwledig a dinesig Cymru, gyda byrddau iechyd y de yn derbyn mwy o fuddsoddiad fesul pen.

Dywed Llywodraeth Cymru eu bod wedi ymrwymo i ddarparu gofal o ansawdd uchel i bobl Cymru, ble bynnag maent yn byw.

Yn ôl dadansoddiad y Ceidwadwyr, cafodd Byrddau Iechyd Betsi Cadwaladr, Hywel Dda a Powys lai o wariant cyfalaf y pen na’r byrddau iechyd eraill dros y pum mlynedd diwethaf.

£344.62 oedd gwariant cyfalaf y pen ar gyfer Betsi Cadwaladr, £362.62 ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, a £199.85 ym Mhowys.

O’i gymharu, cafodd £510.55 ei ddosbarthu fesul y pen ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, £582.07 yng Nghaerdydd a’r Fro, a £788.70 yn Aneurin Bevan.

Fe ddaeth y Ceidwadwyr i’r casgliadau gan ystyried gwariant £1.5 biliwn y llywodraeth ar fyrddau iechyd rhwng 2016 a 2021, ac yna rhannu’r swm llawn yn gyfartal i bob pen yn seiliedig ar boblogaeth yr ardal.

‘Brawychus’

Mae ffigyrau yn “frawychus” yn ôl Darren Millar AS, sy’n weinidog cysgodol y Ceidwadwyr Cymreig dros ogledd Cymru.

“Mae gwahaniaeth enfawr mewn gwariant cyfalaf yn ein GIG ledled y wlad, ac mae’r newyddion yma yn gic arall yn nannedd pobl gogledd Cymru – gan ystyried fod gwariant y pen yn y rhanbarth yn llai na hanner hynny mewn rhannau eraill o’r wlad,” meddai.

Mae’n cyhuddo'r blaid Lafur o “flaenoriaethu” ei chadarnleoedd, a bod Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, oedd dan fesurau arbennig rhwng 2015 a 2020, yn haeddu “cyfran deg o fuddsoddiad”.

“Mae cymunedau a chyfleusterau’r GIG yng ngogledd Cymru wedi cam cam o bron i £100 miliwn gan weinidogion Llafur ym Mae Caerdydd,” meddai.

“Mae angen cywiro hyn a dosbarthu arian yn deg fel y gall ysbytai yng ngogledd Cymru ddarparu gofal o’r radd flaenaf mewn cyfleusterau o’r radd flaenaf.”

'Gofal o ansawdd uchel'

Wrth ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi ymrwymo i ddarparu'r gofal o ansawdd uchel sydd ei angen ar bawb yng Nghymru, ble bynnag maent yn byw.

"Mae byrddau iechyd yn derbyn £81m bob blwyddyn, ac yn datblygu eu blaenoriaethau eu hunain yn seiliedig ar Fframwaith Cynllunio'r GIG ac yn cyflwyno achosion busnes i Lywodraeth Cymru.  Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn derbyn yr ail ddosraniad uchaf.

"Rydym yn parhau i weithio gyda a chefnogi gwasanaethau gofal iechyd ar draws Cymru, ac yn ddiweddar wedi ymrwymo i £100m ar gyfer cyfarpar, staff, technoleg a ffyrdd newydd o weithio i helpu byrddau iechyd i wella gwasanaethau ar draws gofal cynradd, cymunedol ac yn yr ysbyty".

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.