Newyddion S4C

Cip olwg ar benawdau'r bore

23/06/2021
Y Penawdau [NS4C]
NS4C

Bore da gan dîm Newyddion S4C.

Dyma'r prif straeon ar ein gwasanaeth ar fore Mercher, 23 Mehefin.

'Annerbyniol' nad oes uned breswyl arbenigol i bobl ag anhwylderau bwyta yng Nghymru - Y Byd ar Bedwar

Mae’r ffaith nad oes uned breswyl arbenigol ar gyfer pobl ag anhwylderau bwyta yng Nghymru yn “annerbyniol”, yn ôl teulu merch sy’n byw gydag anorecsia. Cafodd Caryl Griffiths, 26 o Langrannog, ddiagnosis o’r cyflwr fis Mawrth 2020. Mae Caryl nawr yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu i geisio sefydlu uned breswyl arbenigol yng Nghymru. 

Beriniadu cynllun i gael ysgolion i ddathlu diwrnod undod Prydeinig - The Guardian

Mae Llywodraeth y DU wedi dod o dan y lach am alw ar ysgolion i ddathlu ymgyrch sydd un clodfori "undod Prydeinig" ddydd Gwener. Mae ymgyrch OBON - 'One Nation One Britain' yn gobeithio y bydd plant yn canu anthem i ganu clod i 'undod' gwledydd Prydain - syniad sydd wedi cael ei wfftio gan lawer ar gyfryngau cymdeithasol.

Cyhuddo Llywodraeth Cymru o beidio â manteisio ar 'gyfleoedd' Brexit

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o beidio â manteisio ar y "cyfleoedd" gall Brexit eu cynnig. Daw’r sylwadau bum mlynedd union ers i’r Deyrnas Unedig bleidleisio yn refferendwm yr Undeb Ewropeaidd. Bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cynnal dadl yn y Senedd yn ddiweddarach ddydd Mercher am y mater.

Dim refferendwm annibyniaeth i'r Alban 'tan 2024' - Daily Mirror

Mae Michael Gove wedi dweud na fydd refferendwm newydd ar annibyniaeth i'r Alban yn cael ei chynnal tan ar ôl Etholiad Cyffredinol 2024. Mewn cyfweliad, dywedodd Canghellor Dugiaeth Caerhirfryn fod y Prif Weinidog Boris Johnson yn canolbwyntio ar yr adferiad cenedlaethol yn sgil pandemig Covid-19 yn hytrach na chynnal refferendwm ar annibyniaeth. 

Therapi cerdd yn cynnig cysur mewn cartref gofal drwy'r pandemig - Newyddion S4C

Mae cerddoriaeth wedi bod yn falm i'r enaid dros y flwyddyn ddiwethaf i gartref gofal yng Nghaernarfon. Diolch i'w cerddor preswyl, Nia Davies Williams, mae trigolion Bryn Seiont wedi cael parhau gyda'u therapi cerdd drwy gydol y pandemig.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.