Newyddion S4C

‘Annerbyniol’ nad oes uned breswyl arbenigol i bobl ag anhwylderau bwyta yng Nghymru

ITV Cymru 23/06/2021

‘Annerbyniol’ nad oes uned breswyl arbenigol i bobl ag anhwylderau bwyta yng Nghymru

Mae’r ffaith nad oes uned breswyl arbenigol ar gyfer pobl ag anhwylderau bwyta yng Nghymru yn “annerbyniol”, yn ôl teulu merch sy’n byw gydag anorecsia.

Cafodd Caryl Griffiths, 26 o Langrannog, ddiagnosis o’r cyflwr fis Mawrth 2020.

Yn ôl Caryl, daeth y salwch o unman, heb i unrhyw beth mawr ddigwydd i achosi’r newid yn ei hymddygiad.

“Na gyd o’dd e ‘da fi oedd bach o straen yn gwaith, wnes i ddechrau mynd i’r gym a o’n i’n teimlo’n hapusach ond nath y gylchred ‘na ddechrau wedyn a bwyta bach yn llai a bach o anhapusrwydd ynglyn â shwt o’n i’n edrych. Wnes i ddechrau gweld gwahaniaethau yn y corff a wedyn ath e’n obsesiwn anferth o flaen fy llygaid” meddai Caryl mewn cyfweliad â’r rhaglen Y Byd ar Bedwar

“Dwi’n cofio rhai o’r boreau dwethaf yn crawlan lan a lawr y stâr a o’n i dal yn gorfod mynd i’r gym. A fi’n cofio cwympo unwaith a ‘na pryd o’n i fel ‘o god, beth dwi’n neud?’ a ‘na pryd gorfes i gytuno bod eisiau help arna i”.

 Dros y cyfnod clo, gwaethygodd yr anhwylder a bu’n rhaid iddi adael ei gwaith fel athrawes gynradd am y tro. Ymhen dim, bu’n rhaid iddi dreulio 4 mis mewn uned arbenigol yn Lloegr, Cotswold House, Marlborough - bron i 200 milltir o’i chartref.

“Fi’n cofio llefen a gweud ‘No, you’re not sending me - ti ddim yn neud hwn i fi.’ Mae rhaid i fi gael teulu a ffrindiau fi i ‘neud pethe dydd i ddydd, heb nhw, no way.” 

“On i mor dost, o’dd dim opsiwn ‘da fi. O’n i wir yn colli bywyd fi a ‘odd dim byd o’dd neb o’n cwmpas i yn gallu ‘neud.”

Bu’n rhaid i’r teulu, sy’n rhedeg ffarm odro, deithio dros bedair awr un ffordd i weld ei merch o’r tu allan.

“Mae e’n warthus ac yn drychinebus bod dim un lle yng Nghymru”, dywedodd ei rhieni, Geraint a Delyth.

“Dim on tu fas y ffenest o’n ni’n gallu gweld hi. Y trwbwl yw, o’n ni ddim yn gwybod yfe na’r tro diwethaf bydden ni’n gweld hi neu beidio.”

Image
ITV Cymru
Bu’n rhaid i deulu Caryl Griffiths deithio dros bedair awr un ffordd i weld ei merch o’r tu allan.

Yn ôl y teulu, tra bod Caryl yn yr uned, roedd 8 allan o 11 gwely yn cynnwys rhywun o Gymru. Mae’n nhw nawr yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella’r driniaeth sydd ar gael i’r rheiny sydd angen mynediad at wasanaeth breswyl arbenigol.

“Ma’ eisiau cael lle fel Cotswold House, fel bod teuluoedd ddim yn diodde’ fel ni a theuluoedd arall sy’n mynd i ddiodde. Mae’n anodd credu bod Llywodraeth Cymru yn ‘neud dim” meddai tad Caryl, Geraint.

Mae tair haen o gymorth ar gael yng Nghymru i bobl sydd ag anhwylderau bwyta, ond os yw oedolyn angen mynediad at wasanaeth haen 4, sef uned breswyl arbenigol ar gyfer y math mwyaf difrifol o anhwylder bwyta, maen nhw’n cael eu cyfeirio at uned yn Lloegr.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae cynnydd o 250% wedi bod yn y nifer sydd wedi gofyn am gymorth oddi wrth yr elusen BEAT ac o’r rheiny, roedd bron i 40% angen help yn benodol am anorecsia.

 Un arall sydd wedi delio â’r anhwylder yn ystod y pandemig yw Francesca Murphy o Abergwaun.

Image
ITV Cymru
Mae Francesca Murphy o Abergwaun yn poeni bod ei anhwylder bwyta wedi dychweld ar ddechrau'r cyfnod clo.

Fe ddechreuodd hi ddioddef o anhwylder bwyta saith mlynedd yn ôl ond erbyn 2018 roedd hi wedi gwella. Ond llynedd, ar ddechrau’r cyfnod clo, dechreuodd hi i boeni bod y cyflwr yn dychwelyd.

“Mae’r flwyddyn ddiwetha’ wedi bod mor extreme ac o’n i moyn control o rywbeth yn ystod y cyfnod clo”, meddai’r ferch 24 oed.

“Ro’n i’n meddwl y gallen i gael control o fwyd a be fi’n edrych fel, ond sa’i mewn control o gwbwl rili.”

“Ti’n mynd mewn i rituals a habits mor gyson, ti’n gorfod ‘neud popeth, black or white, mae hi mor anodd i dorri’r broses ‘na.”

Erbyn mis Mawrth 2021, roedd salwch Francesca wedi gwaethygu ac roedd angen cymorth haen 4 arni. Cafodd ei hanfon am ddeg wythnos i uned arbenigol ‘Cotswold House’, Marlborough sy’n 8 awr o daith lan a nôl o’i chartref.

Image
ITV Cymru
Ystafell Francesca yn y 'Cotswold House', Marlborough. 

“Odd y lle yn Lloegr yn rili dda ac yn help, ond o’n i methu gweld teulu, methu gweld ffrindiau, ac ond yn gallu mynd mas dwywaith y dydd.”

 Fel Caryl, mae Francesca hefyd yn siomedig nad oes uned breswyl arbenigol yn bodoli yng Nghymru a’n galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu. 

“Mae shwt gymaint o bobl yng Nghymru yn diodde’ o anhwylder bwyta, mae rhaid trafaeli i gael y gwasanaeth sydd ei angen rili i safio bywyd pobl. Dyna be mae’n neud, mae rhaid bod ar deaths bed i gael y gwasanaeth ‘na.”

Yn ôl Dr Menna Jones, sydd wedi’i hapwyntio fel arweinydd clinigol anhwylderau bwyta yng Nghymru, mae’n “drist mai dyma’r realiti gymaint o deuluoedd”.

 “Ry’n ni ar hyn o bryd yn edrych ar sut mae’r gwasanaethau yn y gymuned yn gallu cael eu cryfhau er mwyn atal pobl rhag angen mynd mewn i ysbytai a datblygu triniaeth yn gynt”

Yn 2018, fe wnaeth Llywodrath Cymru gynnal adolygiad i wasanaethau anhwylderau bwyta yng Nghymru, ar ôl cydnabod bod angen newid strwythur y gwasanaeth.

Cafwyd 22 o argymhellion, ond doedd creu uned breswyl arbenigol yng Nghymru ddim yn un o’r blaenoriaethau. Yn hytrach, roedd yn rywbeth fyddai’n cael ei ail-ystyried ymhen pum mlynedd. 

Image
ITV Cymru
Dr Menna Jones sydd wedi’i hapwyntio fel arweinydd clinigol anhwylderau bwyta yng Nghymru.

Mae Dr Jones o’r farn bod angen uned breswyl arbenigol, ond yn pryderu am sut byddai lle o’r fath yn cael ei redeg.

“Y cwestiwn yw, sut fydde’ hynna yn cael ei ddatblygu? Ym mhle? Niferoedd? Be fydde fe’n edrych fel? Mae’n beth da ein bod ni’n edrych ar y sefyllfa yn y dyfodol achos byddwn ni’n gweld beth yw’r effaith y pandemig erbyn hynny a sicrhau bod y gwasanaeth sydd yn cael ei ddatblygu i’r angen fydd gyda ni.”

Fe wnaeth y Byd ar Bedwar ofyn am gyfweliad gan Weinidog Iechyd Cymru, Eluned Morgan, i gael ei hymateb hi i’r galwadau am uned breswyl arbenigol yng Nghymru, ond doedd hi ddim ar gael. 

Mewn ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru fod triniaeth ar gyfer anhwylderau bwyta yn cael ei darparu mor agos at adref â phosib, ond weithiau bydd angen triniaeth arbenigol ymhellach i ffwrdd. 

“Rydym yn parhau i fuddsoddi mewn gwasanethau anhwylderau bwyta, ac ers 2017, mae’r byrddau iechyd wedi derbyn 2.5 miliwn o bunnoedd yn ychwanegol i gefnogi gwelliannau. Rydym wedi creu rôl newydd, sef swydd Dr Menna Jones, i sicrhau’r newid trawsnewidiol sydd angen yn y maes hwn.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.