Therapi cerdd yn cynnig cysur mewn cartref gofal drwy'r pandemig
Therapi cerdd yn cynnig cysur mewn cartref gofal drwy'r pandemig
Mae cerddoriaeth wedi bod yn falm i'r enaid dros y flwyddyn ddiwethaf i gartref gofal yng Nghaernarfon.
Diolch i'w cerddor preswyl, Nia Davies Williams, mae trigolion Bryn Seiont wedi cael parhau gyda'u therapi cerdd drwy gydol y pandemig.
"Mae'n anodd cael sgwrs ar ffôn neu gweld rhywun ar Facetime - 'di nhw ddim yn cysylltu 'efo'r sgrin," dywedodd y cerddor.
"Ond wedyn, os oedden nhw'n gallu gweld neu clywed o'n ni'n canu 'efo nhw, oedd y teuluoedd wedyn yn mwynhau gweld bod 'na rhywbeth yna iddyn nhw ac oedd o'n agor ffynhonnell o gyfathrebu wedyn."
Mae David Edwards, sydd â dementia, yn mwynhau canu yn ystod y therapi cerdd.
"Dwi'n mwynhau canu yn enwedig oherwydd dwi'n top tenor," dywedodd.
"Wedyn, mae'r holl top notes yn disgyn arna i. A dwi'n trio fy ngora' i ganu nhw.
"Mae Nia yn gantores - mae hi'n glyfar iawn. [Fy hoff gân yw] Hen Wlad Fy Nhadau - dwi'n licio Hen Wlad Fy Nhadau, dwi'n meddwl bod mwyafrif y côr 'fyd."