Caerfyrddin: Arestio dyn wedi ymgais honedig i lofruddio menyw

Caerfyrddin

Mae dyn wedi ei arestio yn dilyn ymgais honedig i lofruddio menyw mewn parc yng Nghaerfyrddin ddydd Iau.

Mewn datganiad nos Lun, dywedodd Ditectif Brif Uwcharolygydd Heddlu Dyfed-Powys, Ross Evans: “Hoffem ddiolch i’r cyfryngau a’n cymunedau am eu cymorth gyda’n hymchwiliad hyd yma.”

Roedd y llu wedi cyhoeddi yn gynharach ddydd Llun eu bod yn parhau i chwilio am James McKenna, 57 oed. 

Cafodd ei ddisgrifio fel dyn gwyn 5 troedfedd 7 modfedd o daldra, yn foel gyda locsyn gwyn ar ei wyneb. 

Dywedodd eu bod wedi o hyd i gyllell a bag cefn fel rhan o'u hymchwiliad.

Nid yw'r fenyw a ddioddefodd yr ymosodiad wedi'i hanafu'n ddifrifol ac mae disgwyl iddi wella'n llwyr, yn ôl yr heddlu.

Gwaith fforensig

Dywedodd yr heddlu mewn datganiad yn gynharach ddydd Llun bod "nifer fawr o ymholiadau wedi'u cynnal ers y digwyddiad, sydd wedi cynnwys archwiliadau fforensig y tu mewn a'r tu allan i'r parc, yn ogystal ag archwiliadau systematig o'r rhandiroedd, yr ardal goediog a'r gwlyptiroedd cyfagos. 

"Mae'r archwiliadau hyn wedi'u cynnal gan dimau o swyddogion gan gynnwys ein huned gŵn a pheilotiaid drôn, wedi'u cydlynu gan ein Cynghorwyr Chwilio Heddlu, ac maent yn parhau wrth i ni ystyried pob ardal o ddiddordeb.

"Mae'r rhain wedi arwain at gyllell y credir iddi gael ei defnyddio yn y digwyddiad a sach gefn yn cael eu hadfer."

Dywedodd y Ditectif Brif Uwcharolygydd Ross Evans bod disgwyl i’r fenyw a ddioddefodd yr ymosodiad wella’n llwyr wedi’r digwyddiad. 

“Rwy’n falch o allu cadarnhau, er gwaethaf dioddef ymosodiad difrifol iawn, nad oes gan y ddioddefwraig unrhyw anafiadau a newidiodd ei bywyd, a disgwylir iddi wella’n llwyr,”  meddai.

"Rydym yn dymuno’n dda iddi wrth iddi wella, ac yn sicrhau ei bod yn cael ei chefnogi gan ein swyddogion a sefydliadau allanol.” 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.