Pryderon dros ddyfodol cynllun syrffio yn Abertawe

Newyddion S4C

Pryderon dros ddyfodol cynllun syrffio yn Abertawe

Mae ansicrwydd am ddyfodol cynllun syrffio ger Abertawe oherwydd pwysau ariannol.  

Ar draeth Caswell, mae’r môr yn cynnig rhyddid i lawer. Ond i’r rhai sy’n defnyddio cynllun Surfability, mae’n fwy na chwaraeon — mae’n achubiaeth.

Ers dros ddegawd, mae’r elusen wedi cynnig sesiynau syrffio wedi’u haddasu i bobl ag anableddau ac anghenion ychwanegol, gan roi cyfle iddyn nhw brofi’r môr mewn amgylchedd diogel, cefnogol ac am ddim.

Mae’r gwaith wedi denu cefnogaeth gan ambell wyneb cyfarwydd, yn cynnwys yr actor Steffan Rhodri, sydd wedi canmol y cynllun am ei effaith gadarnhaol ar unigolion a’r gymuned ehangach.

"Mae'n ysbrydoledig i gweud y gwir. Pan ti'n gweld yr anableddau, 'falle gyda rhai o'r bobl 'ma a'r problem ma' nhw'n gorfod goroesi er mwyn mynd at y dŵr yn y lle cynta'. Jyst yn gweld y pleser yna, bod hunan-barch yn y fenter yna, yn y risg yna i bobl ag anableddau," meddai.  

Image
Steffan Rhodri
Steffan Rhodri

I lawer o’r cyfranogwyr, mae mentro i’r môr yn rhan hanfodol o fywyd. Dywedodd Ashley Greenaway, sydd yn ddall ac yn defnyddio’r gwasanaeth, fod Surfability wedi newid ei fywyd drwy roi hyder, annibyniaeth a chymuned iddo.

"Fedra i ddim dychmygu fy mywyd hebddo. Doeddwn i byth yn meddwl bod syrffio i mi, doeddwn i ddim yn meddwl ei fod yn bosibl ac yna rydych chi'n dod yma ac dydyn nhw ddim yn gweld eich cyfyngiadau, maen nhw'n gwybod sut i addasu a gweithio gyda chi fel unigolyn," meddai.

Ond er gwaethaf y gefnogaeth a’r galw cynyddol, mae dyfodol Surfability bellach yn ansicr. Gyda chostau’n codi a llai o grantiau ar gael, mae’r elusen yn dweud nad yw’r trefniadau cyllido presennol yn ddigon i gynnal y gwaith hirdymor.

Dywedodd Ben Clifford, sy’n trefnu’r cynllun, fod angen strategaeth gliriach ar gyfer parhad y gwasanaeth, gan rybuddio y gallai’r elusen wynebu penderfyniadau anodd heb sicrwydd ariannol.

“Mae llawer o bobl yn dod i lawr yma ac yn dweud, 'o mae'n rhaid bod gennych chi lawer o gefnogaeth gan y cyngor a'r llywodraeth'. Ac mae fel, mae gennym ni rywfaint ond yn bennaf rydyn ni'n gwneud popeth ein hunain,” meddai. 

Image
y m or

'Cartrefol'

Mae’r cynllun hefyd wedi denu sylw un o fawrion athletau Cymru, gyda’r rhwyfwr Paralympaidd lleol Ben Pritchard wedi rhoi cynnig ar y sesiynau ei hun, gan dynnu sylw at bwysigrwydd mynediad at weithgareddau corfforol i bobl anabl.

“Mae'r tîm yn surfability yn gwneud i ti teimlo'n gartrefol, access i'r traeth. Os oes gen ti anabledd, does dim lot o opsiynau i mynd mewn i'r mor. Ond ma’ Ben a'r tîm yn surfability yn agor y mor i lot o bobl yn Abertawe,” meddai Ben Pritchard.  

Ac mae Steffan Rhodri yn galw am fwy o gefnogaeth swyddogol gan yr awdurdod lleol,

“Beth fyddai'n wych mewn ffordd yw mwy o sicrwydd i'r ariannu yna gan y cyngor yma yn Abertawe. Ma' nhw yn rhoi peth cefnogaeth, wrth gwrs, ond fyddai mwy o sicrwydd am ariannu a'u dyfodol nhw yn bwysig iawn iddyn nhw.”

Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Abertawe fod y cyngor yn cefnogi mwy na 150 o glybiau, elusennau a sefydliadau eraill bob blwyddyn i helpu i ddarparu gweithgareddau am ddim neu gost isel i bobl ifanc a phobl hŷn yn ystod misoedd yr haf a’r gaeaf. 

Ychwanegodd fod Surfability wedi derbyn cyfran o fwy na £500,000 o gyllid ar gyfer gweithgareddau yn y flwyddyn ariannol hon.

Er hynny, mae’r elusen yn dweud bod angen atebion hir dymor i sicrhau nad yw mynediad at y môr yn dod yn foethusrwydd i rai yn unig.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.