Arestio dyn wedi marwolaeth mam o Fôn ar yr A55

Jennifer Anne Brown.jpg

Mae dyn 57 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus, wedi i fam o Fôn gael ei lladd mewn gwrthdrawiad ar yr A55 yng Nghonwy.

Roedd Jennifer Anne Brown o ardal Niwbwrch hefyd yn nain. 

Bu farw yn y fan a’r lle wedi'r gwrthdrawiad ddydd Iau, 29 Ionawr. 

Mae Heddlu’r Gogledd bellach wedi cyhoeddi fod dyn 57 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus ac achosi anafiadau difrifol drwy yrru’n beryglus. 

Dywedodd llefarydd fod y dyn wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth tra bod eu hymchwiliadau’n parhau. 

Mae tudalen GoFundMe a gafodd ei sefydlu yn dilyn marwolaeth Ms Brown bellach wedi codi bron i £15,000. 

Cafodd ei disgrifio fel mam a nain "ofalgar a thosturiol,” a hithau wedi gweithio yng Nghartref Gofal Glan Rhos am fwy na dau ddegawd.

Cafodd Heddlu Gogledd Cymru eu galw i Forfa Conwy tua 12.00 ddydd Iau diwethaf yn dilyn adroddiadau o wrthdrawiad rhwng car a lori ger cyffordd 17 ar yr A55.

Cafodd tri pherson arall oedd yn teithio yn y car eu cludo i’r ysbyty.

Fe gafodd dau ohonynt eu cludo i Stoke ac Aintree mewn hofrennydd, ac un ohonynt i Aintree mewn ambiwlans.

Mewn datganiad yr wythnos diwethaf, dywedodd yr heddlu bod gyrrwr y lori wedi bod yn cynorthwyo’r llu gyda’u hymholiadau. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.