Yr heddlu'n ymchwilio i honiadau am berthynas Peter Mandelson a Jeffrey Epstein

Arglwydd Mandelson

Mae'r heddlu'n cynnal ymchwiliad i honiadau o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus, ar ôl derbyn adroddiadau yn ymwneud â pherthynas yr Arglwydd Mandelson â'r troseddwr rhyw Jeffrey Epstein. 

Mae honiadau fod Peter Mandelson wedi trosglwyddo gwybodaeth sensitif i Epstein, tra roedd e'n weinidog yn San Steffan.

Yn y cyfamser, mae Prif Weinidog y Deyrnas Unedig wedi annog yr Arglwydd Mandelson i adael Tŷ'r Arglwyddi. 

Yn ôl Downing Street, mae Syr Keir Starmer yn credu na ddylai cyn-lysgennad Prydain yn America "fod yn aelod o Dŷ'r Arglwyddi na chwaith ddefnyddio ei deitl." 

Ond does dim grymoedd gan y Prif Weinidog i dynnu ei deitl oddi arno.  

Mae prif was sifil y DU wedi ei alw i gynnal adolygiad, ar ôl iddi ymddangos mewn dogfennau fod yr Arglwydd Mandelson wedi trosglwyddo gwybodaeth i Epstein tra roedd yn weinidog yng nghabinet llywodraeth Gordon Brown.

Yn ôl Downing Street, mae Syr Keir wedi gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet, Syr Chris Wormald gynnal "adolygiad brys" gan edrych ar " bob gwybodaeth sydd ar gael yn ymwneud â chysylltiadau yr Arglwydd Mandelson ag Epstein tra roedd yn weinidog yn y llywodraeth."  

Yn ôl dogfennau sydd wedi eu cyhoeddi gan Adran Gyfiawnder America, mae awgrym fod Epstein wedi derbyn manylion trafodaethau mewnol Llywodraeth y DU, wedi'r argyfwng ariannol byd-eang.

Yn y dogfennau, mae'n ymddangos hefyd fod yr Arglwydd Mandelson, a oedd yn ysgrifennydd busnes ar y pryd, wedi dweud wrth Epstein y byddai'n lobïo gweinidogion ar fater taliadau bonws i fancwyr yn 2009.

Cafodd Epstein ei ddarganfod yn farw yn ei gell mewn carchar ym Manhattan yn Awst 2019, tra roedd yn aros am ei achos llys ar gyhuddiad o gyfres o droseddau rhyw.

Heddlu

Mae Plaid Cymru, Y Democratiaid Rhyddfrydol a'r SNP, wedi dweud y dylai'r Arglwydd Mandelson wynebu ymchwiliad gan yr heddlu i honiadau o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus. 

Yn ol yr AS Llafur, y Fonesig Emily Thornberry: "Nid mater a ddylai Peter Mandelson fod yn Nhŷ'r Arglwydd yw hyn, ond a ddylai'r heddlu fod yn rhan o'r ymchwiliad."  

Dywedodd y gweinidog Cabinet Bridget Phillipson wrth y BBC fod y mater yn ddifrifol iawn. 

Mae'r Arglwydd Mandelson yn absennol o Dŷ'r Arglwyddi ar hyn o bryd. 

Does gan Syr Keir Starmer ddim grymoedd i'w ddiswyddo, ond gallai'r cyn-weinidog ymddiswyddo o'i wirfodd.   

O dan y trefniadau presennol, byddai angen cyfraith newydd i gael gwared ag aelod o Dŷ'r Arglwyddi. 

Digwyddodd hynny y tro diwethaf fwy na chanrif yn ôl. 

Mae'r Arglwydd Mandelson wedi cael cais i ymateb i'r adroddiadau diweddaraf. 

'Cywilydd'

Mae'r Arglwydd Mandelson eisoes wedi gadael y blaid Lafur. 

Nos Sul, dywedodd ei fod wedi ysgrifennu at ysgrifennydd cyffredinol y blaid Lafur i ddweud ei fod yn rhoi'r gorau i fod yn aelod o'r blaid.

"Rwyf wedi fy nghysylltu eto'r penwythnos yma â'r dicter dealladwy ynglŷn â Jeffrey Epstein a dwi'n edifar am hynny. Mae angen i mi ymchwilio i honiadau yr wyf yn credu sydd yn ffug ei fod wedi gwneud taliadau ariannol i mi 20 mlynedd yn ôl. Does gennyf i ddim unrhyw gofnod na chof ohonynt.

Wrth wneud hyn nid wyf am achosi mwy o gywilydd i’r Blaid Lafur ac felly rwy’n camu o'r neilltu fel aelod o’r blaid," meddai yn ei lythyr.

Ychwanegodd:"Fe hoffwn i gymryd y cyfle i ymddiheuro eto i'r menywod a merched a ddioddefodd o dan law Epstein. Dylai eu lleisiau fod wedi eu clywed ymhell cyn hyn.

“Rwyf wedi rhoi fy mywyd i werthoedd a llwyddiannau'r blaid Lafur ac wrth wneud fy mhenderfyniad rwyf yn credu fy mod yn gweithredu er lles y blaid."

Llun: Jonathan Brady/PA 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.