Teyrngedau i chwaraewr pêl-droed 'poblogaidd' ac 'ymrwymedig' o'r Cymoedd

Ioan Evans

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i chwaraewr pêl-droed Lido Afan ym Mhort Talbot sydd wedi marw yn 25 oed. 

Cafodd Ioan Evans o Rondda Cynon Taf ei ddisgrifio fel pêl-droediwr “ymrwymedig” oedd “bob tro’n llwyddo i roi gwên ar eich wyneb.” 

Mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol dywedodd clwb pêl-droed Lido Afan: “Does dim geiriau i gyfleu ein galar yn llawn ar yr adeg yma. 

“Roedd Ioan yn caru bod yn chwaraewr Lido, roedd yn ddyn oedd wedi ymrwymo i’w glwb, ac roedd yn hynod o boblogaidd gyda phawb.

“Fe oedd y dyn lleiaf yn yr ystafell a gafodd yr effaith fwyaf ar y rhai o’i gwmpas. 

“Mae ein meddyliau gyda theulu a ffrindiau Ioan yn ystod y cyfnod hynod o drist yma.” 

Dywedodd Cynghreiriau JD Cymru fod pawb yno ac yng Nghymdeithas Bêl-droed Cymru wedi torri eu calonnau ar ôl cael gwybod am ei farwolaeth.

"Anfonwn ein cydymdeimladau dwysaf at deulu Ioan, ei ffrindiau a phawb yng Nghlwb Pêl-droed Lido Afan. 

"Bydd yn cael ei gofio am byth. Cwsg mewn hedd, Ioan."

Wrth iddo astudio ym Mhrifysgol Met Caerdydd, fe chwaraeodd Ioan ei gem gyntaf yn y JD Cymru Premier dros y clwb o'r brifysgol yn erbyn Llanelli yn 2019. 

Fe ymunodd Ioan â chlwb pêl-droed Lido Afan yn 2020 gan ymddangos mewn 127 o gemau. 

Sgoriodd 16 gôl yn ystod ei gyfnod yno, ac roedd yn gapten ar ei dîm nifer o weithiau. 

Mae gêm Cwpan Cynghrair Gwasanaeth Gwaed Cymru rhwng Lido Afan a Chasnewydd ar 7 Chwefror bellach wedi ei gohirio.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.