Disgwyl i garcharor wadu'r cyhuddiad o lofruddio Ian Watkins

Ian Watkins

Mae llys wedi clywed fod carcharor sydd wedi'i gyhuddo o lofruddio cyn-aelod o'r grŵp Lostprophets Ian Watkins wedi gwrthod gadael ei gell, ond bod disgwyl iddo wadu'r drosedd.

Cafodd Ian Watkins, oedd yn 48 oed ac yn wreiddiol o Bontypridd, ei drywanu yng Ngharchar Wakefield yn Sir Gorllewin Efrog ar 11 Hydref y llynedd.

Roedd Watkins yn treulio dedfryd o 29 mlynedd yn y carchar am nifer o droseddau rhyw difrifol yn erbyn plant.

Roedd disgwyl i Rashid Gedel, 25, ymddangos ar gyfer gwrandawiad rheoli achos drwy gyswllt fideo o'r carchar ddydd Llun. 

Ond fe gafodd y Barnwr Guy Kearl KC wybod gan swyddog carchar fod Gedel wedi gwrthod ymuno â'r gwrandawiad drwy'r linc. 

Mae Gedel a Samuel Dodsworth, 43, wedi eu cyhuddo o lofruddiaeth Watkins. 

Fe wnaeth Dodsworth bledio yn ddieuog i lofruddiaeth drwy gyswllt fideo yn Llys y Goron Leeds mewn gwrandawiad blaenorol ym mis Tachwedd.

Dywedodd Peter Moulson KC ar ran yr amddiffyniad ddydd Llun: "Rwy’n credu y bydd ple dieuog yn cael ei gyflwyno maes o law."

Ychwanegodd Mr Moulson ei fod ar ddeall fod Gedel eisiau ymddangos yn y llys wyneb yn wyneb yn hytrach na thrwy gyswllt fideo.

Mae disgwyl i achos llys gael ei gynnal ar 2 Mai. 

Fe ddywedodd y Barnwr Kearl y byddai Gedel yn cael ei gymryd o'r carchar er mwyn cyflwyno ei ble ar 9 Chwefror.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.