'Awdur toreithiog': Gwobrwyo D. Ben Rees am ei gyfraniad i'r diwydiant cyhoeddi
Mae'r Parchedig D. Ben Rees o Lerpwl wedi derbyn gwobr arbennig am ei gyfraniad i'r byd llyfrau yng Nghymru.
Yn wreiddiol o Geredigion ac yn sylfaenydd cwmni Cyhoeddiadau Modern Cyf, bydd yn derbyn tlws Cyfraniad Oes Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru eleni mewn seremoni fechan yn Lerpwl, ddechrau Chwefror.
Cafodd cwmni Cyhoeddiadau Modern Cyf ei sefydlu yn 1963 yng Nghwm Cynon cyn i'r Parchedig D. Ben Rees symud i Lerpwl yn 1968.
Dros gyfnod o 60 mlynedd cyhoeddodd dros 100 o lyfrau, yn ogystal ag erthyglau i gylchgronau crefyddol a hanesyddol.
Roedd yn olygydd y papur newydd crefyddol Y Pedair Tudalen am gyfnod o wyth mlynedd a’r cylchgrawn Etifeddiaeth.
Wrth gyhoeddi enillydd y wobr, dywedodd Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru fod y Parchedig D. Ben Rees yn awdur eang.
"Mae’r Parchedig D. Ben Rees yn awdur toreithiog a chyhoeddwr blaengar ym maes llyfrau Cymraeg a Chymreig, a hefyd yn awdur a golygydd nifer o lyfrau Saesneg am Gymru ac ardal Lerpwl," meddai'r sefydliad mewn datganiad.
"Sefydlwyd ei wasg, Cyhoeddiadau Modern Cyf, yn 1963, gan weithredu o Abercynon yng Nghwm Cynon, cyn iddo symud i Lerpwl yn 1968.
"Caiff ei gydnabod fel hanesydd, darlithydd a diwinydd, ac fel gweinidog ffyddlon yn Eglwys Bresbyteraidd Cymru."
Nododd Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru hefyd fod y Parchedig D. Ben Rees yn chwarae rôl bwysig yn y gymuned Gymraeg yn Lerpwl.
"Mae’n un o arweinwyr y gymuned Gymraeg yn Lerpwl ers blynyddoedd lawer, a chyn iddo ymddeol treuliodd dros hanner canrif fel gweinidog eglwys Gymraeg Heathfield Road yn y ddinas honno," ychwanegodd.
"Cafodd ei eni yn Llanddewi Brefi, Ceredigion, ond mae wedi treulio’r rhan fwyaf o’i fywyd gwaith yn ninas Lerpwl."
Mae'r sefydliad yn cyflwyno'r wobr yn flynyddol i unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad hir-dymor i'r byd llyfrau yng Nghymru.
Dros y blynyddoedd mae'r sefydliad wedi cyflwyno'r wobr i olygyddion, arlunwyr a chyhoeddwyr.