Reeves yn 'rhwystredig a blin' am y rhyfel yn y Dwyrain Canol

Rachel Reeves yn siarad am Iran yn Nhŷ'r Cyffredin

Mae canghellor Prydain, Rachel Reeves wedi dweud ei bod yn "rhwystredig ac yn flin" bod America wedi dechrau rhyfel gydag Iran heb gynllun ymadael.

Mewn cyfweliad gyda'r Mirror dywedodd mai "ffolineb" yw'r hyn sydd wedi digwydd sydd yn effeithio ar bobl ym Mhrydain ac ar draws y byd.  

Safbwynt gwahanol sydd gan Ysgrifennydd y trysorlys yn America, Scott Bessent.

Mae o wedi dweud wrth y BBC bod "ychydig o boen economaidd" yn werth ei wneud ar gyfer sicrwydd rhyngwladol hir dymor.

Mae disgwyl i'r ddau gyfarfod yn Washington yn ddiweddarach yn ystod cyfarfodydd gyda'r Gronfa Ariannol Ryngwladol.

Sefydliad ariannol yw hwn sy'n rhan o'r Cenhedloedd Unedig gyda'r nod o hybu cydweithio ariannol byd-eang.

Mae'r rhyfel yn y Dwyrain Canol wedi codi prisiau olew.  Os bydd olew, nwy a phrisiau bwyd yn codi eto ac yn parhau yn uchel eleni a'r flwyddyn nesaf fe allai twf y byd ddisgyn i o dan 2% yn 2026 yn ôl y Gronfa Ariannol Ryngwladol.

Y sefyllfa waethaf wedyn fyddai "dirwasgiad byd eang" meddai'r corff. 
 

Ond mae Llywodraethwr Banc Lloegr wedi dweud bod Prydain mewn lle lot gwell i ddelio'r gyda'r sefyllfa economaidd o achos ei system fancio wydn.

Yn y cyfamser mae Donald Trump wedi dweud y gallai trafodaethau gychwyn eto rhwng Iran ac America. Dyw Iran ddim eto wedi ymateb i sylwadau Trump.

Mewn cyfweliad gyda Fox News mae Trump wedi dweud bod y "rhyfel yn agos at fod drosodd." 
 

Llun: Tŷ'r Cyffredin/ PA

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.