Y Brenin ddim yn cyfarfod dioddefwyr Epstein pan yn America

Charles a Camilla

Mae ffynhonnell i'r teulu brenhinol wedi dweud na fydd y Brenin a'r Frenhines yn cyfarfod goroeswyr Epstein pan fyddan nhw yn ymweld â'r Unol Daleithiau'r mis yma.

Yn sgil sgandal Andrew Mountbatten-Windsor mae yna alwadau cynyddol wedi bod i aelodau o'r teulu brenhinol gyfarfod goroeswyr y pedoffeil Epstein.

Mae Andrew Mountbatten-Windsor wastad wedi gwadu gwneud unrhywbeth o'i le.

Yn eu plith mae teulu Virginia Giuffre, un o oroeswr Epstein Lisa Phillips a'r cyngreswr America Ro Khanna.

Ond fydd hyn ddim yn digwydd meddai ffynonellau wrth y BBC gan ddadlau y gallai darfu ar unrhyw gamau cyfreithiol ac atal cael cyfiawnder i'r dioddefwyr.

Mae perthynas Prydain a'r Unol Daleithiau wedi gwaethygu yn ddiweddar gyda Trump yn ymosod yn eiriol ar Brydain a Syr Keir Starmer fwy nag unwaith.

Yn Nhŷ’r Cyffredin fe wnaeth y Prif Weinidog awgrymu y gallai'r ymweliad "godi pontydd". Daeth ei sylwadau wedi i arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Ed Davey godi pryderon bod y Brenin Charles wedi ei gywilyddio gyda Donald Trump. Mae o wedi galw ar yr ymweliad i beidio digwydd.

Bydd yr ymweliad yn para pedwar diwrnod a dyma'r tro cyntaf i Charles ymweld â'r wlad ers iddo ddod yn frenin.

Bydd yr ymweliad yn nodi 250 o flynyddoedd o annibyniaeth i America.

Ymhlith yr hyn y bydd y Brenin a'r Frenhines yn wneud pan fyddan nhw yno fydd ymweld â chofeb 9/11, parc cenedlaethol ac fe fydd y Brenin yn cael cyfarfod preifat gyda Trump. Mae disgwyl i'r Brenin Charles hefyd annerch y Gyngres.

Y gred yw y bydd y Frenhines Camilla yn cyfarfod gydag ymgyrchwyr sydd yn codi llais yn erbyn trais yn y cartref a thrais yn erbyn menywod. Mae wastad wedi codi llais ynglŷn â materion fel hyn. 

Mae ymweliadau gwladwriaethol fel hyn yn digwydd gan y teulu brenhinol ar ran Llywodraeth y DU.

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.