Pleidlais ar fendithio priodasau o'r un rhyw yn barhaol

priodas rhwng dau ddyn

Mae'r Eglwys yng Nghymru yn bwriadu penderfynu a fyddan nhw yn caniatáu bendithio priodasau a phartneriaethau sifil yn barhaol wrth iddyn nhw gyfarfod ddydd Mercher.

Mae'r corff llywodraethu yn cyfarfod yn Llandudno yr wythnos hon ac mae priodasau a phartneriaethau sifil yn un o'r pynciau ar yr agenda.

Ar hyn o bryd mae clerigwyr yn gallu cynnig hyn wedi i'r corff llywodraethu bleidleisio o blaid y cynnig ym mis Medi 2021.

Ond roedd y bil yn cynnig bod y gwasanaeth yn cael ei ddefnyddio’n arbrofol am bum mlynedd. Roedd hi hefyd yn benderfyniad unigol i'r clerigwyr os oedden nhw'n  dymuno arwain y gwasanaeth.

Nawr bydd yr Eglwys yng Nghymru yn cynnal pleidlais er mwyn penderfynu a fydd hyn yn dod yn rhywbeth parhaol.

Mae'r Eglwys yng Nghymru yn dweud bod yna gyfnod o "wrando ac adlewyrchu" wedi bod gydag eglwysi ar draws y wlad cyn cyflwyno'r bil.

Bydd 143 o glerigwyr sydd wedi eu hethol ac aelodau lleyg sy'n cynrychioli'r chwe esgobaeth yn cymryd rhan yn y cyfarfod dau ddiwrnod.

Bydd y diwrnod cyntaf yn cynnwys anerchiad arlywyddol gan Archesgob Cymru, y Parchedicaf Cherry Vann.

 

 

 


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.