Cynnal 'taith ddiwylliannol' i nodi 850 mlynedd ers yr Eisteddfod Genedlaethol gyntaf

Arglwydd Rhys / Aberteifi

Bydd "taith ddiwylliannol" yn cael ei chynnal ar draws y de orllewin dros yr haf i nodi 850 mlynedd ers yr Eisteddfod Genedlaethol gyntaf.

Dros gyfnod o wythnos ar ddiwedd mis Mehefin fe fydd Carreg Filltir Las: Taith Yr Arglwydd Rhys yn teithio trwy drefi a phentrefi lleol cyn cyrraedd pen ei thaith yng Nghastell Aberteifi.

Yn ystod y daith fe fydd pyped enfawr o'r Arglwydd Rhys ap Gruffydd yn arwain y gorymdeithwyr trwy Dŷ Ddewi, Cenarth, Castell Newydd Emlyn, Talgarreg, Llangrannog, Wdig, Maenclochog ac Aberteifi.

Mae'r lleoliadau i gyd yn gysylltiedig â beirdd cadeiriol yr Eisteddfod, gyda seremonïau wedi’u creu gyda chymunedau lleol a fydd yn cynnwys y bardd Ceri Wyn Jones, y cerddor Mari Mathias, a’r perfformiwr Eddie Ladd.

Dywedodd Marc Rees, arweinydd creadigol y prosiect, fod y pen-blwydd yn "anrhydeddu gwaddol" Rhys ap Gruffydd.

“Rydw i wedi gwirioni fy mod wedi cael fy ngofyn i helpu i lunio’r garreg filltir hon," meddai.

"Mae fy ngwaith yn ymateb i safleoedd a chymunedau ac yn ail-ddychmygu digwyddiadau hanesyddol trwy lens gyfoes, aml-gelfyddydol.

"Mae’r pen-blwydd yma’n gynfas i anrhydeddu gwaddol yr Arglwydd Rhys, ac rwy’n edrych ymlaen i ddod â’r foment hanesyddol hon yn fyw.”

Ychwanegodd Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod: “Gan ddod â chymuned, treftadaeth a pherfformiad cyfoes ynghyd, mae Carreg Filltir Las: Taith Yr Arglwydd Rhys yn argoeli i fod yn ddathliad pwerus o’r Eisteddfod Genedlaethol, gan anrhydeddu ei gwreiddiau wrth edrych ymlaen at ei dyfodol.”

Yn 1176, cynhaliodd yr Arglwydd Rhys ap Gruffydd gynulliad hanesyddol yn ei gastell newydd yn Aberteifi. Roedd beirdd, cerddorion a pherfformwyr yn cystadlu am anrhydedd y gadair farddol.

Sefydlodd yr achlysur hwn draddodiad sy’n parhau hyd heddiw yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru.

Dyma ddyddiadau'r daith a'r lleoliadau:

Dydd Gwener 19 Mehefin — Tŷ Ddewi ac Oriel y Parc

Dydd Sadwrn 20 Mehefin — Cenarth a Chastell Newydd Emlyn

Dydd Sul 22 Mehefin — Talgarreg a Llangrannog

Dydd Iau 25 Mehefin — Wdig

Dydd Gwener 26 Mehefin — Maenclochog

Dydd Sadwrn 27 Mehefin — Aberteifi

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.