'Pennod newydd': Cymro yn ymuno â chlwb pêl-droed yn Singapore

Llun: Young Lions
Kai Whitmore

Mae pêl-droediwr o Gymru sydd wedi arwyddo i glwb yn Singapore yn dweud ei fod yn edrych ymlaen at "bennod newydd" yn ei yrfa.

Fe gyhoeddodd clwb Young Lions ddydd Mawrth bod cyn-chwaraewr Casnewydd Kai Whitmore wedi ymuno â'r clwb.

Roedd Whitmore, sydd yn 24 oed, wedi gadael Casnewydd ym mis Chwefror eleni wedi cyfnod o 16 mis gyda'r Alltudion.

Yn ei gyfweliad cyntaf ers ymuno â'i glwb newydd, dywedodd ei fod yn gyffrous ar gyfer yr her sydd o'i flaen.

“Fi mor gyffrous i gychwyn pennod newydd mewn gwlad wahanol,” meddai.

“Yn amlwg fe fydd hi’n cymryd bach o amser i ddod i’r arfer gyda bob dim ond dwi’n edrych ymlaen at yr her.

“Mae sawl peth fydd yn newydd, a bydd cyfnod o addasu wrth gwrs.

“Dwi’n credu mai’r gwres yw’r prif beth, yn amlwg mae’n 20 gradd selsiws yn dwymach na thymheredd Cymru.

“Rhywbeth arall yw ymarfer gyda’r nos yn hytrach na’r boreau. Mae ‘na lot o bethau gwahanol."

Image
Kai Whitmore yn dathlu sgorio dros Gasnewydd. (Llun: Asiantaeth Huw Evans)
Kai Whitmore yn dathlu sgorio dros Gasnewydd. (Llun: Asiantaeth Huw Evans)

Cynrychioli Singapore

Dechreuodd Whitmore, a gafodd ei eni yng Nghastell-nedd Port Talbot, ei yrfa gydag academi Abertawe.

Yna fe symudodd i chwarae i Rydaman cyn arwyddo i Hwlffordd yn Sir Benfro.

Dyw Whitmore heb gynrychioli Cymru ar y llwyfan rhyngwladol, ac mae'n dweud ei fod yn "agored" i chwarae dros Singapore.

Mae modd iddo wneud hynny, meddai, gan fod ei dad-cu wedi cael ei eni yn Singapore.

Mewn cyfweliad gyda gwefan The Straits Times yn Singapore ym mis Mehefin y llynedd, dywedodd Whitmore fod ei dad-cu, Gary Evans wedi ei eni yn Singapore yn 1961.

Roedd ei or-dad-cu yn aelod o'r Awyrlu Brenhinol ac yn gweithio yn y wlad gyda'i wraig a'i fab.

Fe gysylltodd gyda Chymdeithas Bêl-droed Singapore ar ôl i amddiffynnwr Caerdydd, Perry Ng ei annog i wneud hynny.

Mae Ng, a gafodd ei eni yn Lloegr ond sydd bellach wedi sicrhau statws preswylydd parhaol yn Singapore, gam yn agosach at chwarae dros y wlad.

Dywedodd Whitmore ei fod yn "agored" i chwarae dros y wlad, ond bod ei ffocws ar chwarae dros y Young Lions.

“Gobeithio byddai’n gallu dod mewn i'r garfan a gwneud gwahaniaeth," meddai.

“Dwi eisiau gwella’r garfan, ennill gemau ac wedyn cawn weld lle mae pethau’n mynd o hynny.

“Y ffocws nawr yw setlo, gweithio’n galed ac adeiladu cysylltiadau cryf gyda’r garfan.”

Ni fydd modd i Whitmore chwarae i'w glwb newydd tan y tymor nesaf, gan ei fod wedi ymuno â Young Lions tu allan i'r cyfnod trosglwyddo.
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.