Ymosodiad Caerfyrddin: Y chwilio'n parhau am ddyn 57 oed

James M

Mae'r heddlu'n dweud eu bod yn parhau i chwilio am ddyn yn dilyn ymgais honedig i lofruddio menyw mewn parc yng Nghaerfyrddin ddydd Iau.

Mae swyddogion Heddlu Dyfed-Powys yn chwilio am James McKenna, 57 oed, sydd wedi ei ddisgrifio fel dyn gwyn 5 troedfedd 7 modfedd o daldra, yn foel gyda locsyn gwyn ar ei wyneb. 

Y gred yw ei fod yn gwisgo cot werdd a het beanie las ar adeg y digwyddiad.

Mae'r heddlu wedi dod o hyd i gyllell a bag cefn fel rhan o'u hymchwiliad.

Nid yw'r fenyw a ddioddefodd yr ymosodiad wedi'u hanafu'n ddifrifol ac mae disgwyl iddi wella'n llwyr, yn ôl yr heddlu.

Gwaith fforensig

Dywed yr heddlu mewn datganiad bod "nifer fawr o ymholiadau wedi'u cynnal ers y digwyddiad, sydd wedi cynnwys archwiliadau fforensig y tu mewn a'r tu allan i'r parc, yn ogystal ag archwiliadau systematig o'r rhandiroedd, yr ardal goediog a'r gwlyptiroedd cyfagos. 

"Mae'r archwiliadau hyn wedi'u cynnal gan dimau o swyddogion gan gynnwys ein huned gŵn a pheilotiaid drôn, wedi'u cydlynu gan ein Cynghorwyr Chwilio Heddlu, ac maent yn parhau wrth i ni ystyried pob ardal o ddiddordeb.

"Mae'r rhain wedi arwain at gyllell y credir iddi gael ei defnyddio yn y digwyddiad a sach gefn yn cael eu hadfer."

Ychwanegodd y datganiad bod "swyddogion a staff o adrannau arbenigol yn parhau i gynnal ymholiadau digidol ac ariannol."

Mae'r heddlu hefyd wedi holi cwmnïau trafnidiaeth lleol i geisio sefydlu a geisiodd James McKenna adael yr ardal ar unrhyw fath o drafnidiaeth gyhoeddus. 

Yr ymdrech chwilio

Dywedodd y Ditectif Brif Uwcharolygydd Ross Evans: “gallaf eich sicrhau ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ddod o hyd i James McKenna, a bod ein gwaith wedi bod yn barhaus dros y penwythnos ac i mewn i heddiw.

“Ar ôl prosesu’r lleoliadau cychwynnol o ddiddordeb y tu mewn ac yn union y tu allan i Barc Caerfyrddin, mae ein hardaloedd chwilio wedi ehangu i gynnwys ardaloedd coediog, glan afon Tywi a lleoedd y mae’n hysbys ei fod yn aml yn ymweld â nhw.

“Nid ydym yn credu ar hyn o bryd ei fod wedi defnyddio unrhyw ddull trafnidiaeth i adael yr ardal, ond, os oes gan unrhyw un unrhyw wybodaeth a allai awgrymu fel arall, rydym yn eu hannog i gysylltu..."

Ychwanegodd Mr Evans: “Rwy’n falch o allu cadarnhau, er gwaethaf dioddef ymosodiad difrifol iawn, nad oes gan y ddioddefwraig unrhyw anafiadau a newidiodd ei bywyd, a disgwylir iddi wella’n llwyr. 

"Rydym yn dymuno’n dda iddi wrth iddi wella, ac yn sicrhau ei bod yn cael ei chefnogi gan ein swyddogion a sefydliadau allanol. 

“Yn olaf, rydym yn ymwybodol bod ein gwaith wedi arwain at rywfaint o aflonyddwch yn yr ardal leol, a hoffem ddiolch i aelodau’r gymuned am eu cydweithrediad."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.